Eglwys Sant Tomas, Penycae Gradd II
Amgylchynir Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd gan fynwent goediog yn agos at Stryt yr Eglwys.
Sefydlwyd plwyf yn 1844, ac adeiladwyd yr Eglwys yn 1852-2 gan ddilyn cynlluniau Thomas Penson yr ieuaf.
Mae'n Normanaidd o ran ei harddull; mae wedi ei hadeiladu o dywodfaen patrymog wedi ei sgwario, ac mae ganddi doeau llechi. Mae ganddi gynllun croesffurf a chorff, ale groes, a changell a chlochdy yn ongl yr ale groes a'r gangell ddeheuol. Mae'r arddull Normanaidd sy'n nodweddu'r adeilad ar y tu allan i'w gweld hefyd yn y addurniadau y tu fewn. Ceir corff â phedwar bwa a chroesfannau llydan i'r aleau croes a'r gangell.
Fe'i rhestrir fel enghraifft dda o Eglwys Adfywiad Romanésg lle mae'r arddull i'w gweld yn y bensaernïaeth ac yn yr ffitiadau y tu fewn i'r adeilad.
Yn ôl i Gyflwyniad Eglwysi Rhestredig >>