Eglwys Berse Drelincourt, Broughton
Eglwys Genhadol Knolton, Owrtyn
Eglwys y Santes Fair Esclusham, Y Bers
Eglwys Santes Fair, Y Mwynglawdd
Eglwys Sant Iago, Rhosddu, Wrecsam
Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd, Rhosllannerchrugog
Eglwys y Santes Fair, Whitewell, Bronington
Pan gyrhaeddodd Cristnogaeth Ynysoedd Prydain aethpwyd ati i adeiladu eglwysi - adeiladau a fyddai'n datblygu i fod yn enfawr ac ysblennydd. Ar ôl yr eglwysi mynachaidd cynnar a adeiladwyd heb unrhyw forter na rwbel cerrig sychion, datblygwyd y cynlluniau a'r sgiliau peirianyddol sydd mor amlwg yn Eglwysi Gothig y 13eg Ganrif a'r 16eg Ganrif.
Mae cynlluniau pensaernïol a deunyddiau adeiladu yn amrywio o wahanol gyfnodau adeiladu i eglwysi'r 20fed Ganrif, a adeiladwyd o haearn rhychog. Ceir llawer o eglwysi rhestredig diddorol ac amrywiol o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae rhai ohonynt yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa hon.
Gellir honni mai eglwys y plwyf, ynghyd ag adeiladau eraill, yw'r olygfa hynaf a mwyaf diddorol a geir mewn trefi a phentrefi. Yn ogystal â bod yn weithiau o gelfyddyd , mae gan nifer o eglwysi addurniadau cain. Mae pob eglwys a ddangosir yma yn amrywiol, a cheir disgrifiad o'u hanes pensaernïol. Lle mae hynny'n briodol, defnyddir deunyddiau gweledol i gyd-fynd â'r disgrifiadau pensaernïol.
Dosberthir adeiladau rhestredig yn dair gradd i adlewyrchu eu pwysigrwydd:-
O'r blaen, yn hytrach na chael eu graddio fel I, II* a II, rhestrwyd eglwysi yn A neu'n B, ac ni chawsant eu graddio. Mae rhai wedi eu rhestru dan yr hen system hwn o hyd, ac yn aros am ailarolwg gan CADW.
Er 1994, mae rhai enwadau wedi sefydlu eu gweithdrefn rheoli mewnol eu hunain ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig a elwir yn "Eithriad Eglwysig", sy'n golygu mai'r eglwys, yn hytrach na'r Awdurdod Cynllunio Lleol, sy'n delio â newidiadau ac estyniadau. Yr enwadau hynny yw Eglwys Loegr, Yr Eglwys yng Nghymru, Yr Eglwys Babyddol, Yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Cymru a'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae gan y rhan fwyaf, os nad pob un ohonynt, eu Swyddogion Cadwraeth eu hunain, ond maent yn trafod gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor er mwyn derbyn sylwadau. Ymdrinnir â'r enwadau nad ydynt yn cael eu rhestru uchod yn unol â gweithdrefnau arferol Caniatâd Adeiladau Rhestredig.
Cyn y gellir newid, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig mae angen, bron yn ddieithriad, cael Caniatâd Adeilad Rhestredig. Mae'n drosedd newid, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig (hyd yn oed yn rhannol) heb ganiatâd. Argymhellir gofyn am gyngor gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol bob amser cyn mynd ati i wneud unrhyw waith.
Eglwys Berse Drelincourt, Broughton >>