John Douglas

John Douglas (1830-1911)

Cyflwyniad

Eglwys y Plwyf Sant Chad, Holt

Eglwys Sant Dunawd, Bangor-is-y-Coed

Porthordy Parc Acton, Acton

Y Porthordy, Acton

Porthordy Bryn-y-Pys, Overton

Porthordy Gorllewinol Bryn-y-Pys, Overton

Eglwys Crist, Yr Orsedd

Banc y National Westminster, Yr Orsedd

1 a 2 Yew Tree Cottages, Yr Orsedd

Fferm Coed Ynn, Yr Orsedd

7 & 7A Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam

Y Gelli, Bronington

Bythynnod Kenyon, Worthenbury

 

Cyflwyniad

Mae arddangosfa John Douglas (1830-1911) yn ceisio dangos cyfoeth ei waith o fewn ardal Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam. Fel pensaer enwog ddiwedd oes Fictoria roedd yn ymgorfforiad o bensaernïaeth seciwlar ei gyfnod, gyda'i gymeriad unigryw ei hun yn ategu safonau coethni a sensitifrwydd. Dyma gyfnod dylanwad Esthetiaeth a Chyn-Raffaëlaidd ar gelf addurnol ac fe'i ystyriwyd yn gyfnod euraidd pensaernïaeth ddomestig Lloegr. Mae ei ddylanwad yn amlwg ar ardal ddaearyddol Sir Caer a Wrecsam, gyda llawer o'i waith wedi ei leoli yn Ngogledd-Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.

Ganwyd John Douglas (1830-1911) yn Sandiway ger Northwich yn fab i adeiladwr. Astudiodd dan E G Paley, Pensaer o Lancaster, ac wedi iddo gwblhau ei erthyglau arhosodd gyda Paley a daeth yn brif gynorthwy-ydd iddo. Yn 25 oed roedd yn bensaer yng Nghaer a bu yno hyd nes ei farwolaeth yn 1911. Daeth y rhan fwyaf o'i gomisiynau o nawdd Ystadau, er enghraifft Dug Westminster Sir Gaer, ac Edmund Peel o Ystad Bryn-y-Pys Owrtyn. Sefydlodd bartneriaeth gyda D P Fordham (rhwng 1884-1897) a oedd yn enwog fel dyluniwr pen ac inc da ac yn ddiweddarach gyda C H Minshull (rhwng1897-1909) a erthyglwyd i Douglas yn 1874. Trosglwyddodd ei dalent hefyd i'w is-weithwyr yn arbennig yr enwog E A Ould 1852-1909 a oedd yn gyfrifol am dai maestrefol yn Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam gan ddefnyddio tyrau bychain a gafodd eu hysbrydoli'n amlwg gan Douglas.

 

Eglwys y Plwyf Sant Chad, Holt

Gradd I

Tirnod pentref amlwg o fewn Ardal Gadwraeth Holt. Ail-luniwyd yr Eglwys Blwyf hynod hon yn gyntaf ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg gan Syr William Stanley o Bromfield a Chastell Holt. Adferwyd yr eglwys gan Douglas, gydag Ewan Christian, yn 1871-3. Adeiladodd Christian y cysegr presennol gyda Douglas yn rhannol neu'n gyfangwbl gyfrifol am y dodrefn ac ailadeiladu'r to nenbren crwm. Mae'r cerfio a'r manylion ardderchog yn nodweddiadol o Douglas ac mae'r paneli yn y Gangell gyda'u bylau deiliog addurnedig yn werth sylwi arnynt.

 

Eglwys Sant Dunawd, Bangor-is-y-Coed

Gradd II*

Lleolir Eglwys Sant Dunawd mewn mynwent hirsgwar yn Ardal Gadwraeth brydferth Bangor-is-y-Coed. Credir ei fod yn safle Eglwys gynnar gyda'r adeilad presennol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ymgymerwyd a chyfnodau mawr o adferiadau ac ychwanegiadau gan John Douglas yn 1868-1877.

Gellir gweld dylanwad Douglas yn yr eil orllewinol neo-berpendicwlar, y cyntedd gogleddol gyda thalcen wedi ei fframio mewn coed ac addurn gerfiedig y Mudiad Esthetaidd. Mae'r corau gothig a'r canllawiau, y seddau a'r pulpud gyda'i batrwm blodau endoredig hefyd i gyd yn waith Douglas. Mae'r tu mewn o safon uchel a diddorol a dylanwadodd cyfraniad Douglas ar y penderfyniad i restru'r eglwys oesoedd canol hon gyda'i thwr ddeunawfed ganrif gynnar yn Radd II*.

 

Porthordy Parc Acton, Acton

Gradd II

Adeiladwyd fel porthordy i Barc Acton ac yn sefyll ychydig yn ôl i un ochr o giatiau Parc Acton ac wedi ei dyddio 1887. Dylanwadodd Douglas yn fawr ar ei arddull neo-werinol. Cerrig patrymog wedi eu sgwario a tho teils coch. Unllawr gyda'r llawr uchaf yn gyfangwbl o fewn y to. Wedi ei restru fel enghraifft dda o bensaernïaeth ystad neo-werinol. Gwerth gr@p gyda giatiau Parc Acton.

Y Porthordy, Acton

Gradd II

Adeiladwyd fel porthordy i Barc Acton ac wedi ei ddyddio 1876. Porthordy yn null Douglas ond nid yw'r pensaer yn hysbys. Rwbel wedi ei addurno a'i sgwario'n fras i'r llawr isaf, ffrâm bren uwchben gyda tho talcennog teils coch. Rhestrwyd yr adeilad hwn fel enghraifft dda o bensaernïaeth ystad neo-werinol.

 

Porthordy Bryn-y-Pys, Overton

Gradd II

Rhestrwyd yr adeilad hwn fel enghraifft dda o bensaernïaeth ystad ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ddarluniadwy ac heb unrhyw ymhoniadau pensaernïol mawreddog, wedi ei adeiladu o gerrig patrymog, sgwarog, a tho teils plaen. Fe'i leolwyd ynghanol pentref Owrtyn ar ffin orllewinol yr ardal gadwraeth a gerllaw'r giatiau oedd unwaith yn arwain at Neuadd Bryn-y-Pys.

 

Porthordy Gorllewinol Bryn-y-Pys, Overton

Gradd II

Adeiladwyd y porthordy ar gyfer ystad Bryn-y-Pys mewn cynllun neo-werinol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe'i dyddiwyd 1875. Enghraifft ardderchog o waith John Douglas, wedi ei gydosod a'i addurno yn arbennig o dda, ag anghymesuredd darluniadwy. Mae'r diffyg ymhoniadau pensaernïol mawreddog a'r defnydd o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol rhanbarthol hefyd yn bwysig.

 

Eglwys Crist, Yr Orsedd

Gradd II

Wedi ei chynllunio gan Douglas a Fordham yn 1886 a'i hadeiladu yn 1891-2. Mae'n cymryd lle Eglwys Adfywiad Gothig gynharach o 1841 ac mae o fewn pentref deniadol Yr Orsedd.

Wedi ei hadeiladu yn null Adfywiad Gothig y tu mewn a thu allan, mae gan yr adeilad hwn ei swyn ac mae ei fanylder yn drwyadl. Mae'r twr pinacl wedi ei fwtresu'n gadarn ac wedi ei gynllunio'n dda. Wedi ei adeiladu o gerrig nadd mae'r cynllun hwn gan Douglas yn ddyfeisgar ac wedi ei adeiladu ar ffurf croes gyda tho llechi. Fe'i rhestrwyd yn Radd II fel esiampl dda o Eglwys diwedd y cyfnod Adfywiad Gothig.

 

Banc y National Westminster, Yr Orsedd

Adeiladwyd Banc y National Westminster, a leolwyd ym mhentref deniadol Yr Orsedd, yn wreiddiol fel ty coffi ar gyfer Alexander Balfour, y marsiandwr a pherchennog llongau o Lerpwl yn 1881. Dylanwadwyd ar Douglas gan fframiau pren y Gororau a Sir Caer. Fframiau pren, yn wir, yw'r elfen bwysicaf a'r un a ddefnyddiwyd yn gyson yn adeiladau gwerinol Douglas. Mae'r enghraifft a welir yma yn dangos y defnydd o ffrâm bren 'ysgafn' gan Douglas ac mae'r nifer o adeiladau lle mae'n ymddangos gyda thoeon gweddol serth.

 

1 a 2 Yew Tree Cottages, Yr Orsedd

Gradd II

Mae rhif 1 a 2 Yew Tree Cottages ar ffordd Llai i'r gorllewin o'r Orsedd. Fe'u hadeiladwyd yn 1881 ar gyfer Alexander Balfour yn ôl cynlluniau John Douglas. Roedd un bwthyn ar gyfer hwsmon a'r llall ar gyfer aelodau cenhadaeth o Lerpwl. Wedi eu hadeiladu yn null yr adfywiad gwerinol, mae'r llawr isaf o fric coch gyda thalcenni ffrâm bren. Y ffrâm bren yw'r elfen bwysicaf, a'r un a ddefnyddir yn fwyaf cyson yn adeiladau gwerinol Douglas. Mae'r simnai nodweddiadol, sy'n dal o fric coch grisiog ei chynllun, eto yn nodwedd sy'n dwyn sylw yng ngwaith Douglas. Mae gwerth grwp i'r bythynnod gyda'r rhes o adeiladau allanol cyfagos yn Yew Tree Farm.

 

Fferm Coed Ynn Yr Orsedd

Gradd II

Comisynwyd Douglas gan Balfour i gynllunio'r rhes o dai allan i Yew Tree Farm. Fe'u rhestrwyd fel rhes o adeiladau fferm wedi eu cynllunio'n arbennig ac mewn cyflwr da gyda gwerth grwp iddynt gyda'r ddau fwthyn yn Yew Tree Farm. Wedi eu hadeiladu yn null adfywiad gwerinol, bric coch â tho teils coch. Mae gan ran y llawr ganolog do sydd bron yn byramid gyda chorn simnai bric llawn, grisiog ei chynllun. Mae gwaith John Douglas yn bensaernïaeth Y Gellir ei mwynhau yn ogystal a'i hedmygu wedi ei gydosod a'i addurno yn arbennig o dda, ag anghymesuredd darluniadwy. Mae'r diffyg ymhoniadau pensaernïol mawreddog a'r defnydd o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol rhanbarthol hefyd yn bwysig.

 

7 & 7A Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam

Gradd II

Wedi ei leoli yn Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg, rhestrwyd yr adeilad cain hwn fel enghraifft dda iawn o’r dull ‘Celf a Chrefft’ gan ddefnyddio deunyddiau lleol. Mae’n cyfannu cymeriad Fictoraidd ac addurniadol yr ardal gadwraeth yn dda. Fe’i adeiladwyd yn 1884 i gynlluniau E.A. Ould ar gyfer W.E. Samual o fric coch gydag addurniadau carreg a tho llechi gwyrdd. Mae’r ddeulawr a’r atig yn creu anghymesuredd cytbwys.

 

Y Gelli, Bronington

Mae hwn Mewn safle unig uwchben ffin Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Sir Gaer. Adeiladwyd Y Gelli ar gyfer yr Anrhydeddus Georgina a Henrietta Kenyon mewn dull adfywiad oes Fictoria mewn bric, carreg a ffrâm bren. Mae'r addurniadau ar ffurf patrymau losin yn adnabyddus ar unwaith fel gwaith Douglas ac mae'r toeau talcennog a thwr bach colomendy'r stabl yr un mor nodweddiadol. Er bod ffitiadau'r Gelli'n syml, a'r gwaith coed mewn pìn yn hytrach na derw, maent yn enghraifft gynnar o'r Douglas nodweddiadol a chyson.

 

Bythynnod Kenyon, Worthenbury

Gradd II

Wedi eu cynllunio gan Douglas a Fordham yn 1892 fel llety ar gyfer gweddwon gyda bwthyn labrwr yn rhan annatod ohonynt. Wedi eu lleoli ar y briffordd trwy Tallarn Green. Adeiladwyd y bythynnod â ffrâm goed a gynlluniwyd mewn dull adfywiad gwerinol gyda phlociau bric wedi eu gwynnu ar odre bric, to teils clai a thri chorn simnai bric coch. Maent yn cyfuno cynllunio llawn dychymyg a chynllunio traddodiadol yn llwyddiannus ac fe'u rhestrwyd fel esiampl ddiddorol o adeiladu dyngarol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig