Mae parciau a gerddi hanesyddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhan bwysig o dreftadaeth yr ardal. Mae esiamplau yn bodoli o mor gynnar â'r canoloesoedd, ond mae esiamplau hwyrach o gyfnodau Tuduraidd a Jacobeaidd wedi goroesi hefyd. Daethant yn bwysig yn enwedig mewn trefi a phentrefi lleol gan i boblogaethau trefol chwyddo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond hefyd cyn bwysiced mewn ystadau gweledig, yn benthyca o'r olygfa odidog, i greu teimlad o fodolaeth esthetig foddhaol.
Plas Argoed, Froncysyllte (II)
Plas Llysbedydd, Llysbedydd (II)
Brynkinalt, Y Waun (II*)
Castell Y Waun, Y Waun (I)
Plas Erbistog, Erbistog (II)
Erddig, Wrecsam (I)
Parc Gredington, Hanmer (II)
Plas Horsley, Marford (II)
Parc Iscoed, Bronington (II)
Pen-y-Lan, Rhiwabon (II)
Rosehill, Erbistog (II)
Wynnstay, Rhiwabon (I)
Plas Trefalun, Yr Orsedd (II)
Ty Trefalun, Yr Orsedd (II)
Whitehurst, Y Waun(II*)
Mynwent Wrecsam (II)
Mynwent Y Santes Fair, Owrtyn (II)
Cyhoeddwyd Y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol ym 1995 gan CADW, asiantaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwrpas y gofrestr yw darparu gwybodaeth am Barciau a Gerddi Hanesyddol i gynorthwyo i'w gwarchod a'u cadw. Nid oes unrhyw reolaeth cynllunio ychwanegol yn ymglymedig. Mae parciau a gerddi hanesyddol yn ddynodiadau anstatudol, ond maent yn cael eu graddio'n debyg i Adeiladau Rhestredig I, II*,II.
Parciau a gerddi sydd oherwydd eu cynllun hanesyddol, nodweddion ac addurniadau pensaernïol wedi eu hystyried ar y cyd, yn eu gwneud o ansawdd arbennig.
Parciau a gerddi sydd oherwydd eu cynllun hanesyddol, nodweddion ac addurniadau pensaernïol wedi eu hystyried ar y cyd, yn eu gwneud o ddiddordeb arbennig.
Gall parciau a gerddi hanesyddol gynnwys adeiladweithiau rhestredig, gan wneud y gynrychiolaeth yn werthfawr o ran apêl esthetig a chynllun hanesyddol.
Gradd I
Adeiladwyd Castell y Waun, un o fastiynau gwreiddiol Edward I, yn bennaf
gan Roger Mortimer ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Wedi newid dwylo
sawl tro, ym 1595, cafodd ei brynu gan Thomas Myddleton, ac mae ei ddisgynyddion
wedi byw yno ers hynny.
Mae Parc Castell y Waun â hanes hir iddo, gan ddechrau gyda pharc
ceirw bychan teulu'r Mortimer o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y parc
wedi ei ffensio â phren ac yn cynnwys 500 acer o goetir. Yn hwyrach
ymlaen, cafodd y coed eu clirio ac fe'i ailblanwyd gan Iarll Caerl~r neu'r
Myddletoniaid. Ar ôl 1595, torrwyd y coed i lawr eto yn ystod y
Rhyfel Cartref, ac fe ailblanwyd eto yn ystod cyfnod yr Adferiad. Ym 1675
estynnodd Syr Thomas Myddelton y parc i'r de ac i'r dwyrain i ddall 500
o geirw.
Mae'n barc tirlunedig gwych, wedi ei gynllunio, yn rhannol gan William
Emes ynghyd â therasau a gardd anffurfiol, gyda gweddillion o'r
canoloesoedd. Ymysg y nodweddion trawiadol ceir y clwydi mynedfa o ddechrau'r
ddeunawfed ganrif a sgrin gan Robert a John Davies, cerflun o Hercules
gan Van Nost o ddechrau'r ddeunawfed ganrif a pherthi yw a thocweithiol
yn yr ardd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Castell y Waun (I)
Clwydi Castell y Waun, Sgrin a phileri (I)
Cerflun Hercules (II)
Rhes y Stablau (II*)
Muriau i'r Ardd Guddiedig (II)
Clwydi i Ardd y Dwyrain (II)
Gradd II*
Saif Brynkinallt, i'r dwyrain o bentref y Waun, Yn uchel ar dir bryniog
uwchlaw'r dyffryn, yn edrych dros Afon Ceiriog cyn iddi ymuno ag Afon
Dyfrdwy. Mae aelodau o'r teulu Trevor wedi byw ar y safle hwn ers y flwyddyn
942.
Gwnaed gwaith ailfodelu enfawr ym 1808 gan ddefnyddio cynllun Charlotte,
Is-Iarlles Dungannon, addurnai ei chwaeth y meysydd a'r parc o amgylch.
Mae'r ardd yn barc turlunedig darluniadwy mewn safle bendigedig, gyda
nodweddion Gothig ynghyd â thwnnel anarferol i ardd y gegin.
Mrynkinallt yn cynnwys Plas Brynkinallt (II*)
Clwydi, Pileri a Rheiliau i Glwyd y Gorllewin (II)
Porthdy'r Waun, (II)
Mur Cysgodol i'r Buarth Gwasanaeth ym Mhlas
Mrynkinallt (II)
Deildy o fewn Parc Brynkinallt (II)
Pont y Foneddiges, (yn parhau i Loegr II)
Gradd II
Plasty brics Georgaidd yw Plas Erbistog wedi ei leoli ar dir uwch i'r
gorllewin i Afon Dyfrdwy. Adeiladwyd y ty ym 1770 a'i berchnogion oedd
y teulu Wynn o Wynnstay. Mae hanes y parc yn aneglur, ond mae'n bur debyg
i'r rhodfa syth gael ei gwneud ar yr un amser â'r ty, ar ddechrau'r
ddeunawfed ganrif, ac fe gafodd y rhodfa bresennol ei hychwanegu'n ddiweddarach.
Mae rhan fwyaf o'r ardd i'r de a'r de-ddwyrain o'r ty. Prif nodweddion
yr ardd yw'r gwrychoedd yw a'r gwaith tocweithiol gwych. Mae'n debyg bod
cynllun ffurfiol yr ardd yn dyddio'n ôl i adeiladu'r ty. Mae'r gwrychoedd
yn rhannu'r ardd yn rhannau ffurfiol, ac mae'r gwaith tocweithiol, rhai
wedi eu torri i siâp 'madarch', enfawr yn cynorthwyo i ddiffinio'r
echeli.
Rhan o'r rheswm bod yr ardd wedi cael ei chynnwys ar y rhestr yw ei gardd
rannol derasog, yn dyddio'n ôl mae'n debyg i ddechrau'r ddeunawfed
ganrif, gyda gwrychoedd yw a gwaith tocweithiol da iawn, wedi eu cadw'n
dda hen iawn. Mae'r ardd yn cynnwys colomendy o ddechrau'r ddeunawfed
ganrif wedi ei gadw'n dda.
Gradd I
Mae Erddig, yn dy sylweddol o frics, wedi ei leoli i'r de o Wrecsam,
mewn cyn ardal lofaol, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ei berchennog.
Lleolwyd y parc mewn dau ddyffryn, Nant Ddu i'r gorllewin o'r ty a'r Afon
Clywedog i'r gogledd, gan ffurfio ardal siâp L.
Mae hon yn esiampl neilltuol o ardd ffurfiol grand, ar steil Iseldiraidd
o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg/dechrau'r ddeunawfed ganrif. Mae ei
phrif nodweddion yn parhau heb gael eu haltro, ac maent wedi cael eu hadfer
yn dda. Tirlunwyd y parc gan William Emes, gyda nodwedd dwr anarferol,
cwpan a soser gyda rhywfaint o goed wedi eu plannu.
Gwnaed yr ardd gyntaf gan Joshua Edisbury ym 1684-87, roedd hon yn mynd
gyda'r ty cyntaf llai, ac roedd yn ardd furiog ffurfiol fechan ym 1718-1733.
Cynlluniwyd y parc yn gyntaf gan John Mellor rhwng 1718-33. Rhwng 1767-1784
cafodd y parc ei dirlunio gan William Emes i Philip Yorke. Er eu bod wedi
cadw'r hen gyfluniad sylfaenol, tynnwyd bob ffurfioldeb oddi yno, ac fe
blannwyd nifer o goed.
Erddig Gradd (I)
Sgrin a Chlwydi yn cau ar yr Ardd Ffurfiol yn Erddig Gradd (II*)
Cwpan a Soser (II*)
Rhes Buarth y Stablau (II*)
Cegin a golchdy, becws a chegin gefn cysylltiedig (II*)
Gradd II
Mae Rosehill yn barc turluniol bychan gyda gardd furiog sydd wedi cael
ei chadw'n dda a leolwyd i'r de o'r prif d~ Georgaidd hwyr o'r un enw.
Mae'r ty a'r ardd mewn lleoliad darluniadwy iawn yn edrych dros Afon Dyfrdwy.
Crewyd y parc mae'n bur debyg ar yr un adeg a'r ty ar ddiwedd y ddeunawfed
neu yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae nifer o'r coed yn
y parc yn aeddfed, ac fe allent ddyddio o'r cyfnod hwn. Sgwâr yw
siâp y parc.
Saif yr ardd i gyfeiriad y dwyrain a'r de o'r ty gan fwyaf. Yn ei ffurf
bresennol, mae'r ardd yn ymddangos i fod o gymeriad Edwardaidd, er gall
y terasu fod yn gynharach.
Mae wedi goroesi yn ei gyfanrwydd, gyda llawr â gwrych bocs bychan
Edwardaidd anarferol yn goroesi, ynghyd â gardd gegin wedi
ei chadw sy'n parhau i gynhyrchu'n llawn.
Rosehill (gan gynnwys gardd furiog) (II)
Ty Coets (II)
Ysgubor (II)
Gradd II
Plas Trefalun yw un o'r tai Elisabethaidd pwysicaf yn y wlad. Fe'i adeiladwyd
gan John Trevor ym 1576. Yn hwyrach ymlaen, adeiladwyd pentref darluniadwy
Marford i'r de-orllewin tua 1813-14 gan Ystad Trefalun.
Mae'r ardd yn cwmpasu sawl rheng o ddatblygiad hanesyddol. Er nad oes
ceirw yn Nhrefalun, mae'r parc ceirw yn parhau, ond nawr yn cael ei ddefnyddio
fel tir ffermio âr. Mae'n bur debyg eu bod yn gyfoes gyda'r ty gwreiddiol.
Saif y Parc Mawr a'r Parc Coed Pîn i'r de-orllewin o Blas Trefalun
yn ffinio â phentref Marford.
I'r gogledd-ddwyrain o Barc Coed Pîn mae Parc y Cyll. Saif y berllan,
nawr yn gae i'r gogledd-orllewin a de-orllewin o'r gerddi. Mae'n parhau
i fod â chlawdd pridd trawiadol i gadw'r ceirw draw. Erbyn hyn,
rhan o fur sydd i ardd y gegin, ar yr ochrau gogledd orllewinol a gogledd-ddwyreiniol.
Tybir ei bod â mur lawn yn wreiddiol.
Gwnaed y gwaith tocweithiol yn yr ardd bleser rhwng 1836-38 gan Thomas
ac Elizabeth Griffith. Mae'r ffurfiau tocweithiol yn cynnwys ci, cwningen
a sawl siâp rhesog. Mae gardd flwch fechan wedi ei lleoli yng nghornel
ogledd-orllewinol yr ardd.
Plas Trefalun gan gynnwys cyn borthdy ( II*)
Y Buarth (adnabuwyd gynt fel Adain Gwasanaeth Plas Trefalun) (II)
Gradd II
Mae Ty Trefalun yn dy brics gyda chonglfeini a thriniadau carreg eraill,
wedi ei adeiladu mewn steil Georgaidd ym 1754. Mae'r meysydd pleser a
gardd y gegin yn meddiannu rhan petryalog o amgylch y ty gyda gardd y
gegin ar ei ochr ddwyreiniol. Mae'r rhan fwyaf o'r gerddi yn cynnwys coetir
a lawnt anffurfiol, gyda rhannau mwy ffurfiol i'r de a'r gorllewin o'r
ty.
I'r gorllewin o'r lawnt ffurfiol, mae creigardd fawr yn cynnwys twmpathau
mawr o greigwaith gyda llwybrau troethog cul rhyngddynt. Roedd hon wedi
cael ei gosod pan dynnwyd ffotograffau yn yr 1880au. Mae llawer o'r creigwaith
o garreg galch wedi gwisgo â dwr, gyda un darn mawr wedi ei osod
i fyny fel piler ger y llwybr.
Saif gardd y gegin i'r gogledd-ddwyrain o'r ty, gyda mur atodol wedi ei
chadw'n dda i'r de a hen berllan i'r dwyrain. Mae'n debyg ei bod yn gyfoes
a'r bloc stablau a dybir i fod yn Fictoraidd cynnar. Mae ei feysydd pleser
pedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi goroesi yn cynnwys creigardd fawr
a choed aeddfed braf, coed conwydd a chollddail.
Ysbyty Trefalun (II)
Cyn floc stablau (II)
Gradd II*
Mae Whitehurst, sydd ddwy filltir i'r gogledd o Gastell y Waun yn esiampl
dda o ardd furiog o'r ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys muriau ffrwythau
terasog troëdig, clwydi, ty gwledda a ffos.
Adeiladwyd yr ardd gan yr ail Syr Thomas Myddleton ym 1651. Fe'i disgrifiwyd
gan Thomas Dineley yn y Beaufort Progress 1684 fel 'admirable walled garden
of trees, plants, flowers and herbs of the greatest rarity as well forreigne
as of Great Britain, orange and lemon trees the sensitive plant'.
Gallasai Syr Thomas groesawu ei gyfeillion yn Whitehurst. Roedd yn gyfleus
i'r rhai oedd yn teithio i'r de ac i'r gogledd ar hyd yr A5, ac roedd
yn arbed taith i Gastell y Waun. Dangosir y rhannau deheuol a dwyreiniol
o'r ardd ar ddarlun Thomas Badeslade ym 1735 'The West Prospect of Chirk
Castle'.
Dangosir y rhannau deheuol a dwyreiniol o'r ardd fel planhigfa gyda rhesi
o goed coniffer ar hyd terfynau'r gorllewin a'r gogledd ac ar draws y
canol. Mae'r mownt yn dangos rheidiau pelydrol, drwy'r blanhigfa ar ei
lethrau.
Ty Whitehurst (II)
Bwthyn y Frenhines Ann (II*)
Muriau Teras Isaf (II)
Ail Fur Teras (II)
Mur Teras Uchaf (II)
Pileri Clwydi Gerddi Whitehurst gyda
Chlwydi a Mur Perimedr yr ardd (II)
Gradd II
Mae Mynwent Wrecsam yn fynwent fawr Fictoraidd ar ymyl orllewinol y dref.
Cafodd ei osod allan gan Yeaman Strachan o Wrecsam. Cafodd ei gysegru
ar y 3 Gorffennaf 1876 a cafodd ei ymestyn tuag at y dwyrain ym 1890.
Mae rhan fwyaf o'r gosodiad wedi goroesi.
Gosodwyd y fynwent fel gardd gyhoeddus, gyda llwybrau troellog a syth,
a choed a llwyni addurnol ar wasgar. Tu fewn i'r fynedfa ar yr ochr orllewinol
mae porthdy bychan deulawr a gynlluniwyd gan William Turner o Wrecsam.
Tu fewn ger y clwydi mae dau gapel Gothig wedi eu cysylltu â bwa
capel, hefyd gan Turner.
I'r gogledd mae colofn dal, fain pigfain o frics o darddiad ansicr. Yng
nghanol y fynwent mae clostir bychan wedi ei amgylchynu â gwrych
Yw, gyda cherrig coffa i luoedd Pwylaidd a fu farw ym 1946.
Capeli'r Fynwent (II)
Porthdy (II)
Pileri Clwydi (II)
Clwydi (II)
Rheiliau (II)
Gradd I
Mae Wynnstay yn blasty mawr Fictoraidd carreg mewn steil Chateau Ffrengig
y Dadeni. Saif ar y llwyfandir i'r gogledd o Ddyffryn Dyfrdwy,
de-ddwyrain o Rhiwabon.
Mae'r parc yn dirlun gwych o'r ddeunawfed ganrif, yn un o'r parciau mwyaf
a phwysicaf yng Nghymru. Er ei fod erbyn hyn wedi ei dorri'n ddau gan
y briffordd A483, mae'r parc yn parhau i gadw nifer o'i nodweddion hanesyddol,
rhai sy'n briodoledig i Richard Woods a Capability Brown.
Un goroesiad gwych a phrin yw'r maes pleser neu'r llwyni a gynlluniwyd
gan Capability Brown. Mae'r parc hefyd yn cynnwys rhai cofebau pwysig,
porthdai ac adeiladau eraill, rhai gan benseiri blaenllaw. Er bod llyn
Capability Brown wedi diflannu, mae hanner rhaeadr greigiog fawr yn parhau
ar y pen isaf.
Plas Wynnstay (II*)
Llaethdy Plas Wynnstay (II*)
Colofn Wynnstay (II*)
Rhaeadr (II*)
Ty Baddon a Phwll Plymio (II*)
Rhes y Stablau (II)
Cyn Swyddfa'r Stad (II)
Bwthyn y Stad a chyn Furiau
Gardd y Gegin cysylltiedig (II)