Pwll Glo'r Bers Ffrâm Pen Pwll Rhif 2, Rhostyllen
Pwll Glo'r Bers Ty Peiriant Dirwyn, Rhostyllen
Hen Simnai Border Brewery, Wrecsam
Cored y Dwyrain ar Afon Clywedog, Wrecsam
Adeilad Wythonglog ar Safle Gwaith Haearn Y Bers, Y Bers
Ty Gwyntyll Walker yn hen Bwll Glo Wynnstay, Rhiwabon
Ty Peiriant Dirwyn Fertigol yn hen Bwll Glo Wynnstay, Rhiwabon
Trawsffurfiodd y Chwyldro Diwydiannol gymdeithas Prydain yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan i fwyafrif y boblogaeth oedd yn gweithio symud o alwedigaethau amaethyddol i ddiwydiant. Yn wir mae modd gweld y Chwyldro Diwydiannol fel grym unigol drwy'r hwn yr ailadeiladwyd cymdeithas er mwyn bwydo a chyflogi poblogaeth oedd yn cynyddu'n rhyfeddol o gyflym.
Newidiodd y cyfnod hwn wyneb Cymru gymaint ag unrhyw ran o Brydain.
Yn Wrecsam a'i ranbarth (sy'n cynnwys Y Bers a Chefn Mawr) roedd yr effaith yn fawr a dramatig. Gyda datblygu codi glo a chynhyrchu haearn yn y C18 a dyfodiad bragu yn ddiweddarach, newidiodd Wrecsam ei hun o dref farchnad sirol a chanolfan gymdeithasol i drefgordd ddiwydiannol ffyniannus.
Mae'r arddangosfa'n edrych ar enghreifftiau o dreftadaeth ddiwydiannol fel 'ymerodraeth' y meistr haearn John Wilkinson yn y Bers, canolfan enwog archeoleg ddiwydiannol, a Phwll Glo'r Bers yn Rhostyllen; y pwll olaf i weithredu ym maes glo Wrecsam. Mae ei Ffrâm Ben Pwll Rhif 2 yn radd II* restredig fel adeiledd pwll glo prin sydd wedi goroesi.
Mae gan dref Wrecsam etifeddiaeth o adeileddau diddorol cysylltiedig â hanes maith o fragu (a barcio). Mae hen fragdy'r Werddon, gan gynnwys hen fracty a hen simnai Border Brewery (Gradd II ill dau) yn sefyll allan i'n hatgoffa o'n gorffennol a hanes cyfoethog.