Adeiladau Rhestredig : Eglwys Blwyfyr Holl Saint, Gresffordd

Lleolir Eglwys Blwyf yr Holl Saint mewn man amlwg o bentref hanesyddol Gresffordd, mewn mynwent petryalog o fewn yr Ardal Gadwriaethol.

Llun o Eglwys Blwyfyr Holl Saint, Gresffordd

Cofnodwyd eglwys yn Llyfr Dydd y Farn, ond mae'n annhebygol mai hon yw'r eglwys bresennol. Fodd bynnag, mae cofnodion hwyrach o 1254 a 1333 yn gyson gyda'r adeiladwaith o'r 13eg a'r 14eg Ganrif. Ailadeiladwyd yr eglwys bron yn llwyr yn y 15fed Ganrif, ond mae adeiladwaith cynharach wedi goroesi. Rhoddodd Thomas Stanley, Iarll Derby wydr i'r eglwys ym 1500. Roedd yn ail wr i Margaret Beaufort, mam Harri VII, ac yn wr pwysig. o dan yr eglwys, mae cryptai plwm a gloddwyd yn ddiweddar wedi goroesi.

Adeiladwyd yr eglwys o adeiladwaith a chynllun unffurf y 15fed Ganrif, ond gan gadw rhai nodweddion cynharach. Adeiladwyd o feini tywod melyn Cefn, gyda tho llechen, gyda chynllun petryalog a thwr gorllewinol, cynteddau i'r gogledd a'r de a chorff a changell gydag ystlys di dor. Yn gyffredinol, mae'r ffenestri yn berpendicwlar. Y tu fewn, ceir to nenbren crwm di-dor o ansawdd da, a dodrefn canoloesol cain. Mae sgrin gangell fewnol wedi cael ei briodoli i weithdy yn Llwydlo, ac mae'n debyg i sgriniau yn Astbury, Hughley ac Aymestry.

Llun o Eglwys Blwyfyr Holl Saint, Gresffordd

Fe'i rhestrir fel Gradd I, yn esiampl wych o eglwys ganoloesol ddiweddar gyda gwydr a dodrefn canoloesol cain. Mae gwerthoedd cysylltiol iddi hefyd, gyda beddau amgaeëdig yn y fynwent, wal y fynwent a physt y giatiau, Achill, Ty'r Eglwys ac Ysgol Holl Saint ac ysgoldy.

Eglwys Blwyf San Silyn, Wrecsam >>


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig