Adeiladau Rhestredig : Castell Y Waun

Saif y castell yn agos at Glawdd Offa a'r ffin â Lloegr, yn edrych dros ac yn rheoli Dyffryn Ceiriog. Fe'i lleolir mewn parc tirlun godidog, wedi ei gynllunio'n rhannol gan William Emes, ac ynddo mae gerddi teras a gerddi anffurfiol, gyda rhannau wedi goroesi ers y canoloesoedd.

Llun o Castell Y Waun

Mae'n debyg y dechreuwyd adeiladu'r castell gwreiddiol yn fuan wedi 1295 ar gyfer Roger Mortimer a dderbyniodd arglwyddiaeth tir y Waun ym 1282 gan Edward I, gan ddisodli mwnt Normanaidd wedi'i leoli i'r de o Eglwys y Santes Fair ar Stryd yr Eglwys, Y Waun. Mae'n bur debyg mae Meistr James o San Sior o Savoy, y saer maen brenhinol oedd y cynllunydd.
Nid yw'r safle yn strategol, ond mae wedi'i adeiladu i wynebu'r dyffryn Cymreig, er mwyn arfer dylanwad y Saeson yn weledol dros y Cymry. Mae'n debyg i'r prif gyfnod cyntaf o adeiladu estyn hyd at gwymp Mortimer ym 1322. Yna bu yn nwylo sawl un hyd 1595 pan y'i prynwyd gan Thomas Myddelton a bu yn ei linach hyd at 1978 pan gafodd ei brynu ar gyfer y genedl, a'i roi yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fe'i rhestrir fel Gradd I, fel adeilad o bwysigrwydd cenedlaethol mawr, gan iddo fod yn un o gyfres o gestyll Edwardaidd yng Nghymru. Cafodd ei addasu i fod yn sedd ystad diriog bwysig ar y gororau, ac oherwydd hyn, roedd prif benseiri a chynllunwyr olynol yn rhan o greu blasty pwysig o fewn y fframwaith canoloesol. Mae gwaith cain o ddiwedd y 18fed a chanol y 19eg Ganrif yn sefyll allan yn arbennig.

Llun o Castell Y Waun Giatiau

Neuadd Erddig, Marchwiel >>


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig