Adeiladau Rhestredig : Pont Holt

Mae pont Holt yn pontio'r Afon Ddyfrdwy ac yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn Farndon. Nid oes dyddiad penodol i'r bont ffordd ganoloesol. Adeiladwyd y bont yn ystod teyrnasiad Edward III ym 1338-9. Ym 1368, cyfeiriwyd at bont rhwng Farndon a Holt wedi ei chodi gan John, Iarll Warenne, mewn treial yn y Llys Sirol yng Nghaer. Fodd bynnag, mae'n bur debyg i'r bont bresennol fod o'r 15fed neu'r 16fed Ganrif. Bu lle amlwg i'r bont yn ystod y Rhyfel Cartref, gyda'r ddwy ochr yn ceisio rheoli'r croesiad.

Lun o Pont Holt

Fe'i hadeiladwyd o feini tywod lleol coch unigryw, gydag wyth bwa cylchrannol yn croesi'r afon, yn cael ei gwahanu ar bob ochr gan dorddyfroedd pigfain gyda llochesfeydd. Mae bwa'n bodoli yn y sarn ar yr ochr Gymreig a fu'n safle i gapel gynt.

Rhestrwyd fel Gradd 1, oherwydd ei tharddiad canoloesol, ac oherwydd ei bod yn un o bontydd pwysicaf Cymru. Fe'i lleolir yn Ardal Gadwriaeth Holt.


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig