Adeiladau Rhestredig : Cyflwyniad

Dyfrffos Pont Cysyllte, TreforMae adeiladau rhestredig yn werthfawr ac yn derfynedig. Maent yn cyfoethogi cymeriad, golwg a hunaniaeth yr amgylchedd, ac maent yn atgoffâd pwysig o'n hanes cymdeithasol.

Rhestrir adeiladau o bensaernïaeth arbennig neu ddiddordeb hanesyddol gan CADW, trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae bron i 900 o adeiladau rhestredig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Fe'i rhestrir am sawl rheswm, megis oed, eu bod yn anghyffredin, rhinwedd pensaernïol, modd adeiladu, cysylltiadau enwog a gwerth grwp.

Ffactor allweddol arall i benderfynu rhestru adeilad yw cyflawnrwydd pensaerniol. Yr hynaf ydynt y mwyaf prin ydynt. Fel arfer, mae unrhyw adeilad cyn 1700 sy'n dal mewn cyflwr gwreiddiol yn rhestredig. Bydd y rhan fwyaf o adeiladau sydd wedi cael eu hadeiladu rhwng 1700 a 1840 yn cael eu rhestru, yn dibynu ar eu rhinweddau. Mae adeiladau rhestredig rhwng 1840 -1945 yn llawer iawn mwy detholiadol a dim ond adeiladau pwysig iawn a adeiladwyd ar ôl 1945 fydd yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru. Dosberthir adeiladau rhestredig i dair gradd i ddangos eu pwysigrwydd - Gradd I, II* a II. Ystyrir adeiladau Gradd I i fod o ddiddordeb, rhagorol, fel arfer yn genedlaethol. Mae 17 adeilad rhestredig Gradd I ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Dim ond 2% o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yw hyn, yn genedlaethol ac ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyn y gellir addasu, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig, mae'n bron iawn yn sicr y bydd rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig. Mae'n drosedd i addasu, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig (neu ran ohono).


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig