Adeiladau Rhestredig : Dyfrffos Pont Cysyllte, Trefor

Adeiladwyd Traphont Ddwr Poncysyllte rhwng 1795 a 1805 i gludo Camlas Ellesmere ar draws dyffryn Afon Dyfrdwy. Prif beiriannydd y gamlas oedd William Jessop 1745 -1814. Y prif asiant oedd Thomas Telford 1757-1834, bryd hynny'n dirfesurydd anadnabyddus gwledig, ond a ddaeth wedyn yn beiriannydd sifil mwyaf cynhyrchiol dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn i Bontcysyllte gael ei chwblhau ym 1805, hi oedd y drydedd draphont ddwr camlas haearn i'w hadeiladu yn y byd.

Dyfrffos Pont Cysyllte

Mae'n draphont ddwr gyda 19 bwa, ac yn croesi Afon Dyfrdwy ar uchder o 38m (125ft). Ei hyd yw 307m (987ft). Platiau haearn bwrw yw'r bwâu, sydd wedi cael eu bolltio ar eu fflansys. Adeiladwyd y cafn sy'n dal y dwr o blatiau segmentaidd gyda fflansys ymestynnol i'r tu allan. Adeiladwyd y 18 piler o garreg nadd coeth, ac yn wag mewn mannau. Mae gan y pedwar piler sy'n Afon Dyfrdwy dorddyfroedd amlwg.

Rhestrwyd fel Gradd I, oherwydd ei chyfraniad bwysig tuag at ddatblygiad peirianneg camlesi a'r defnydd o haearn bwrw ar gyfer adeiladu, ac fel cofadail fyd enwog o'r Chwyldro Diwydiannol. Fe'i lleolir yn Ardal Gadwriaeth Basn Trefor.

Eglwys Sant Chad, Hanmer >>


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig