Pont carreg dywod gyda thair bwa dros Afon Dyfrdwy o feini nadd gyda thorddyfroedd, i fyny'r afon oddi wrth y draphont ddwr. Mae arysgrif o 1697 wedi ei chofnodi, ac mae'n debyg ei bod yn cyfeirio at ddyddiad adeiladu'r bont, ond dim ond bwa'r de a rhan isaf piler y de sydd wedi goroesi. Ailadeiladwyd gweddill y bont, ychydig yn lletach yn y 18fed Ganrif.

Rhestrwyd fel Gradd I, oherwydd ei bod yn esiampl gain o bont ôl ganoloesol sy'n parhau i gadw ei chymeriad gwreiddiol, er ei bod wedi cael ei newid ychydig