Adeiladau Rhestredig : Eglwys Sant Chad, Hanmer

Lleolir Eglwys Sant Chad yn Ardal Gadwriaeth Hanmer. Mae'n Eglwys o ddiwedd y cyfnod Perpendicwlar, gyda bylchfuriau a chorff, ystlys, cangell a thwr gorllewinol o garreg. Ailadeiladwyd yr eglwys yn sylweddol ym 1889 yn dilyn tân ofnadwy a gadawyd y twr gorllewinol a'r muriau noeth ar ôl yn unig.

Eglwys Sant Chad, Hanmer

Ailadeiladwyd y gangell ym 1770, ac mae'r arcêdau ailfodeledig yn cynnwys darnau o'r eglwys y 13eg Ganrif a fu ar y safle. Mae gan y groes garreg yn y fynwent siafftau pigfain wythonglog yn cynnal cerfiad, sy'n cynnwys golygfa'r croeshoeliad, ac mae'n Henebyn rhestredig.

Pont Bangor, Bangor-is-y-Coed >>


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig