Mae'r rhan fwyaf o du allan yr Eglwys Blwyf yn dyddio o ddiwedd y 15fed Ganrif. Fe'i hadeiladwyd mewn sawl cam, gan ddiweddu ag adeiladu'r twr tua 1506-1520. Mae'r tu mewn yn cynnwys elfennau o eglwys 14eg Ganrif, gan gynnwys yr arcedau. Fodd bynnag, cysylltiad enwocaf yr Eglwys yw gydag Elihu Yale a anwyd yn Boston ym 1649. Roedd yn gymwynaswr i'r Eglwys yn Wrecsam a Phrifysgol Yale yn yr America. Fe'i claddwyd ym Mynwent Wrecsam ym 1721. Cafodd yr Eglwys ei hatgyweirio yn ystod y 19eg Ganrif a'r 20fed Ganrif. Digwyddodd yr atgyweiriad cyntaf ym 1867 gan ddefnyddio cynlluniau Benjamin Ferrey; fe'i dilynwyd gydag atgyweiriadau pellach ym 1898, ac eto ym 1903-04 , gan H.A. Prothero.

Mae'r tu allan yn cynnwys twr gorllewinol, corff gyda llofft olau a dwy ystlys gyda chynteddau mewnol gorllewinol a changell cromfannol. Fe'i hadeiladwyd o garreg cwrs a sgwâr gyda thoeau plwm a thwr gorllewinol chwe chyfnod gyda bwtresi clesbyn, y cwbl yn cael eu coethi gyda bandiau rhwyllog arcêd a phedeirdalen. Mae'r pilastrau allanol a chanolog â chilfachau gyda chanopi yn dal cerfluniau. Mae Eglwys San Silyn yn arbennig o enwog oherwydd ei thwr. Codwyd copi o'r twr ym Mhrifysgol Yale yn y 1920au.

Tu mewn ceir gwydr lliw a chofebau cain gan L F Roubiliac 1702 1762, cerflunydd o Loegr a anwyd i Ffrancwyr. Ceir cofebau angladdol dramatig yno. Mae iddi werth grwp oherwydd y beddau yn y fynwent, deial haul, beddrod Elihu Yale, giatiau Mynwent San Silyn ac mae'n Henebyn Rhestredig.

Eglwys Santes Fair, Rhiwabon >>