Adeiladau Rhestredig : Eglwys Santes Fair, Rhiwabon

Cofnodwyd eglwys yma ym 1233, ac fe'i ail-lluniwyd gan TF Pritchard ym 1769-70. Ym 1870-2, fe'i hailadeiladwyd yn sylweddol gan Benjamin Ferrey.

Eglwys Santes Fair, Rhiwabon

Fe'i hadeiladwyd o rwbel carreg dywod a meini nadd. Mae'n dwr pedwar llawr o'r 14eg Ganrif gyda bwtresi croeslin a drws bwa i'r gorllewin. Mae iddi ystlys dalcenog, corff â llofft olau a chyntedd deheuol 19eg Ganrif. Mae porth y fynwent i'r de-ddwyrain y fynwent wedi cael ei ffinio â mur rwbel.

Arddangosir darlun mur o'r 15fed Ganrif y tu mewn ar fur y de o'r enw 'Gweithredoedd Trugaredd', ac fe'i adferwyd ym 1870. Mae gan yr Eglwys gysylltiadau â'r bardd Maredudd ap Rhys a fu'n ficer yno o 1430, ac ysgrifennodd gerdd ar weithredoedd Trugaredd.

Rhestrwyd fel Gradd I, fel eglwys gydag elfennau canoloesol, gyda chelfi o ddiddordeb ac am ei grwp o gofebau pwysig. Mae iddi werth grwp gydag adeiladau rhestredig ar y Stryt Fawr a Stryt yr Eglwys. Lleolir Eglwys Rhiwabon yn yr Ardal Gadwriaeth.

Dyfrffos Pont Cysyllte, Trefor >>


Ardaloedd Cadwraeth

Mynegai Arddangosfeydd

yn ôl i'r brig