Tafarn The Golden Lion, Wrecsam
Tafarn yr Horse and Jockey, Wrecsam
Tafarn The Commercial, Wrecsam
Tafarn The Seven Stars, Wrecsam
Tafarn The Wynnstay Arms, Ruabon
Gwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam
Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar amrywiaeth diddorol o dafarndai a gwestai sydd wedi eu rhestru o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol neilltuol. Mae eu cyfraniad i Fwrdeistref Wrecsam yn ychwanegu cymeriad neilltuol i hanes masnachol, cymdeithasol a phensaernïol yr ardal.
Mae tref Wrecsam yn enwog am ei lager ond mae dechreuad hyn yn camu yn ôl i'r Oesoedd Canol pan ddaeth yn dref farchnad a dyfodd yn gyflym. Daeth yn lle o gryn bwysigrwydd masnachol a chymdeithasol yn sydyn iawn ac roedd cyflwyno tai cwrw canoloesol yn ffactor hollbwysig yn ei datblygiad.
Roedd cyflenwad dwr da yn hanfodol i fragu cwrw ac roedd gan Wrecsam gyflenwad dwr o ansawdd uchel a oedd yn addas ar gyfer hyn. Mor gynnar â chyfnod y Tuduriaid (1485 - 1603) roedd bonheddwyr lleol yn cynnal tai trefol yn Wrecsam. Yn y ddeunawfed ganrif daeth Wrecsam yn rhan o lwybr y Goets Fawr o Gaer i'r Amwythig. Daeth y galw am westai ac adnewyddu yn ffactor bwysig yn natblygiad cymdeithasol y dref ac mae sawl tafarn a gwesty o'r cyfnod hwn wedi goroesi hyd heddiw.
Gwelodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cyfnod mwyaf cyffrous a chynhyrchiol mewn bragu cwrw yn nhref Wrecsam. Adeiladwyd Bragdy y Lager Wrecsam enwog yn 1881-2 gan Robert F Graesser, a chwaraeodd ran amlwg yn ei ddatblygiad. Roedd yn un o'r bragdai cyntaf i'w adeiladu'n benodol ar gyfer cynhyrchu lager ym Mhrydain. Creodd cyflenwi lager i wahanol fannau, gan gynnwys cwmnïau llongau mawr, ddelwedd ryngwladol gref. Daeth y cynhyrchu i ben yn 2000.
Tueddodd pentrefi gwledig yn y Fwrdeistref, lle roedd cyflenwad da o ddwr, i gael eu bragdai eu hunain er bod y fasnach ar raddfa llawer llai nag yn nhref Wrecsam.
Mae'r holl dafarndai sy'n cael eu portreadu yma wedi cael adnewyddu eu tu mewn rhywbryd, a hyn fel arfer yn golygu colli rhai nodweddion gwreiddiol neu newidiadau. Mae newidiadau fel hyn mewn ambell i achos wedi effeithio cyfrannedd yr ystafelloedd neu fariau. Mae'r ychydig o dafarndai sydd wedi gwrthsefyll y tueddiad diweddar hwn wedi cadw'u nodweddion unigol a dylid eu gwerthfawrogi fel hynny.
Rôl yr Awdurdod Lleol yw cydbwyso'r angen am newid masnachol yn erbyn yr awydd i gadw rhan o dreftadaeth Wrecsam a chymeriad hanfodol ei dafarndai a'i westai.
Rhestr ir adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu sydd â hanes arbennig gan CADW trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae bron i 900 o adeiladau rhestredig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Fe'u rhestrir am sawl rheswm, megis oed, prinder, rhinweddau pensaernïol, dull adeiladu, cysylltiadau enwog a gwerth grwp.
Mae cyflawnrwydd pensaernïol yn ffactor allweddol wrth benderfynu rhestru adeilad a'i peidio. Maent yn mynd yn fwy prin wrth iddynt fynd yn h~n. Fel arfer rhestrir unrhyw adeilad sy'n goroesi mewn cyflwr gwreiddiol o cyn 1700. Rhestrir y rhan fwyaf o adeiladau a adeiladwyd rhwng 1700 a 1840 yn ôl eu rhinweddau. Bydd rhestru adeiladau a adeiladwyd rhwng 1840-1945 yn fwy dewisol. Dim ond adeiladau hynod bwysig a adeiladwyd ar ôl 1945 a ystyrir ar gyfer rhestru.
Rhennir adeiladau rhestredig i dair graddfa i ddangos eu pwysigrwydd perthynol:-
Cyn y gellir altro, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig, mae'n bron iawn yn sicr y bydd angen derbyn caniatâd adeiladau rhestredig. Mae'n drosedd altro, estyn neu ddymchwel (hyd yn oed yn rhannol) adeilad rhestredig. Fe'ch cynghorir i ofyn am gyngor gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn ymgymryd ag unrhyw waith.
Tafarn The Boat Inn, Erbistog>>