Un
o brif amcanion yr Is-Adran yw darparu cefnogaeth weinyddol effeithiol
ac effeithlon ir Adran Gynllunio a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
syn gyson ag ymrwymiad y Cyngor i ofalu am ei gwsmeriaid.
Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaeth derbynfa croesawgar ac effeithiol i aelodaur cyhoedd syn ymweld âr Adran drwy sicrhau eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth ar cymorth sydd eu hangen arnynt.
Cefnogi gwaith yr isadrannau eraill drwy ddarparu systemau gweinyddol effeithiol.
Sicrhau bod y swyddog achos yn derbyn ffeiliau cais cynllunio o fewn 2 ddiwrnod gwaith o dderbyn cais dilys a sicrhau y cyhoeddir hysbysiadau o benderfyniadau o fewn 24 awr or penderfyniad perthnasol.
Darparu gwybodaeth berthnasol am eiddo i Is-Adran Pridiannau Tir y Cyngor.
Dilysu a mewnosod gwybodaeth gynllunio ar y system gyfrifiadurol (dydd 1af)
Cydnabod derbyn y wybodaeth a chynhyrchur holl hysbysiadau safle a llythyrau ymgynghori (2il ddiwrnod)
Anfon y ffeil at Swyddogion Rheoli Datblygiad i brosesu a phenderfynu (2il ddiwrnod)
Cyflawni unrhyw hysbysiadau neu ymgynghoriadau ychwanegol
Paratoi Adroddiadau Pwyllgor ar gyfer aelodau o Banel Cynllunior Cyngor
Anfon Tystysgrif o Benderfyniad at yr Ymgeisydd neu Asiant.
Gall aelodaur cyhoedd weld cofrestr o holl geisiadau cynllunio
o fewn y Fwrdeistref Sirol. Ers Ebrill 1996, cedwir y gofrestr hon ar
gyfrifiadur. Gellir hefyd cael mynediad i fanylion o geisiadau cynllunio
blaenorol a phresennol y maen bosibl eu bod o ddiddordeb.
Yn ogystal â cheisiadau cynllunio, maer system gyfrifiadurol
yn dangos gwybodaeth arall a all fod yn berthnasol i rywun syn ystyried
datblygiad. Dangosir rhestr lawn isod:
Cyfleuster Chwilio am Geisiadau Cynllunio Ar Lein.
Mae cyfres o lyfrynnau a thaflenni syn cynnwys ystod eang o
bynciau ar gael yn y dderbynfa ar gyfer y cyhoedd. Maer pynciaun
cynnwys Rheoli Adeiladau a Chynllunio.
Eu hamcan yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd ir cyhoedd am y meini prawf
a ddefnyddir i benderfynu ceisiadau fel y gellir rhagweld unrhyw broblemau
cyn i gyflwyniad ffurfiol am gymeradwyaeth gael ei dderbyn gan yr Adran
Gynllunio.
Gellir gweld rhestr gyflawn isod.
Ewch i Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol>>
Ffurflenni CaisMae ffurflenni dwyieithog ar gael ar gais ar gyfer pob math o geisiadau Cynllunio a Rheoli Adeiladau.
Maer Adran Gynllunion cymryd rhan yn y Cynllun Cynllunio a Rheoli Adeiladau lle gellir cael copïau papur o ddarnau o fapiau i gyd-fynd â chyflwyniadau ir Adran Gynllunio.
Maer Is-Adran yn gweinyddur Cynllun ar ran yr Arolwg Ordnans.
Cysylltwch â: Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: (01978) 292016.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk