Helpu i lunio'r dyfodolBob deng mlynedd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal cyfrifiad er mwyn cael gwybod rhagor am y bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr, ac am bwy sy'n byw ym mhob cymdogaeth. Cynhelir y cyfrifiad nesaf ddydd Sul 27 Mawrth 2011, pan fydd SYG yn anfon holiaduron i tua 25 miliwn o gartrefi i'w llenwi.
Mae'r cyfrifiad yn holi am waith, iechyd, hunaniaeth genedlaethol, dinasyddiaeth, cefndir ethnig, addysg, ail gartrefi, iaith, crefydd, statws priodasol ac ati. Yna caiff yr ystadegau eu defnyddio i greu darlun o'r gymdeithas sydd ohoni heddiw.
Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Wrecsam yn dibynnu ar amcangyfrifon poblogaeth y cyfrifiad i gael yr arian sydd ei angen gan y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng y swm hwn o arian a'r math o bobl sy'n byw yn ein hardal ni, yn ôl data'r cyfrifiad. Felly, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o gartrefi a adawyd allan yn y cyfrifiad, gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Rhaid i'r cyfrifiad gynnwys pawb, ym mhobman - a dyna pam mae'n rhaid i bawb gymryd rhan.
Mae'n hawdd. Pan ddaw'r amser, bydd angen i chi ateb ychydig o gwestiynau amdanoch chi'ch hun a'r bobl sy'n rhannu'ch cartref ar ddiwrnod y cyfrifiad, 27 Mawrth 2011. Bydd popeth a rannwch yn y cyfrifiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol a'i ddefnyddio dim ond er mwyn creu ystadegau. Ni fydd SYG yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw adran arall o'r llywodraeth nac unrhyw sefydliad arall.
Byddwch yn gallu ei wneud ar lein. Byddwch yn gallu ei wneud drwy'r post. Ond bydd yn rhaid i chi ei wneud.
Mae'n rhaid i bawb helpu i lunio'r dyfodol - a dyma fydd eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cyfrifiad.gov.uk
Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.