Ffeithiau a Ystadegau

Casglwyd data o amrediad o ffynonellau i roi trosolwg ystadegol o Fwrdeistref Sirol Wrecsam a’r 47 ward / adran etholaethol.  Mae’r tudalennau a ganlyn yn cynnwys gwybodaeth ystadegol i helpu trigolion, ymwelwyr a busnesau gael gwell dealltwriaeth o gyfansoddiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal. 

Cyflwyniad

Wrecsam ydy canolfan fasnachol a gweinyddol ardal ddiwydiannol gogledd ddwyrain Cymru, a dyma’r canolbwynt naturiol i’r ardal amgylchynol.

Mae Wrecsam wedi cadw naws tref farchnad, er gwaethaf y ffaith bod canolfan siopa fodern, di-draffig yma sy’n cynnwys cymysgedd o siopau lleol a chenedlaethol. Mae pobl yn dod o bell y tu hwnt i ffiniau’r Fwrdeistref, gan ddenu siopwyr o Swydd Gaer a Swydd Amwythig ac o ogledd a chanolbarth Cymru. Wrecsam ydy’r dref fwyaf yng ngogledd Cymru a’r drydedd ganolfan adwerthu fwyaf yng Nghymru ar ôl Caerdydd ac Abertawe. 

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys oddeutu mil o siopau, banciau, cymdeithasau adeiladu a swyddfeydd post, gyda mwy na 600 ohonyn nhw yn ardal ffordd gylchol fewnol y dref. 

Gwelwyd newid arwyddocaol yng nghymeriad diwydiannol yr ardal yn ystod y degawdau diwethaf wrth i’r diwydiannau traddodiadol cloddio glo a gwneud brics ddirywio a diflannu. 

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol