Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio gwneud gwasanaethau’n fwy cyfeillgar a hygyrch.
Fel rhan o’n rhaglen ddatblygu barhaol rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu ar gyfer Treth y Cyngor a Threthi Busnes, Rhenti Tai, Amrywiol Ddyledion ynghyd â gallu talu biliau gwasanaethau am Nwy Gogledd Cymru a Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn uniongyrchol, ac yn ddiogel, i’r Cyngor.
Cwestiynau cyffredin ynghylch talu ar-lein | Gweld ein Polisi Preifatrwydd
Debyd UniongyrcholY ffordd fwyaf diogel a mwyaf cyfleus i chi dalu yw trwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydych yn arbed amser ac nid oes angen ysgrifennu sieciau, dim arian parod i’w dalu, dim byd i’w bostio na gorfod ciwio wrth gownteri.
Rydych yn sicr bob amser gyda Debyd Uniongyrchol y cewch ad-daliad ar unwaith os digwydd i gamgymeriad gael ei wneud, sy’n annhebygol iawn.
Gallwch gael cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol yn un o’r tair ffordd ganlynol:
Treth y Cyngor 01978 292031
Trethi Busnes 01978 292030
Dyledwyr 01978 292078
Tai 01978 315300
Neu ffoniwch 01978 292852.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran Cyllid a Pherfformiad
Stryt y Lampint
Wrecsam LL11 1AR.
Cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol
Gallwch lenwi’r ffurflenni mewn dull electronig ond bydd angen i chi eu hargraffu a’u llofnodi cyn eu dychwelyd.
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Trethi Busnes – ffeil PDF 54Kb ![]()
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Treth y Cyngor – ffeil PDF 62Kb ![]()
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Anfonebau Dyledwyr – ffeil PDF 111Kb ![]()
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Rhent Tŷ – ffeil PDF 35Kb ![]()
Gwarant Debyd Uniongyrchol Rhent Tŷ – ffeil PDF 9Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Mae’r cyfleuster talu ar-lein hwn yn gadael i chi dalu biliau’n uniongyrchol, ac yn ddiogel, i’r Cyngor ar gyfer:
Mae holl drafodion yn ddiogel gyda chefnogaeth gwasanaethau VeriSign. Trwy ddefnyddio’r cyfleuster talu hwn rydych yn cytuno â Thelerau ac Amodau Taliadau Ar-lein ein gwefan.
Oherwydd faint o sicrwydd sydd ei angen gyda thaliadau ar-lein dylai eich porwr gwe fod naill ai’n Firefox, Internet Explorer fersiwn 6 neu uwch.
Gallwch hefyd archebu a thalu am y canlynol:
Os bydd gennych unrhyw gwestiwn ynghylch y Cyfleuster Talu Ar-lein, gwelwch yr adran Cwestiynau Cyffredin Talu Ar-lein.
I gael gwybodaeth am sicrwydd a phreifatrwydd, gwelwch ein hadran Telerau ac Amodau Taliadau Ar-lein.
Gallwch dalu trwy eich tudalen fancio ar y we eich hun trwy ddyfynnu ein manylion banc sef cod didoli 20-25-69 a rhif cyfrif 43626725. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dyfynnu eich cyfeir-rif taliadau. ![]()
Gallwch wneud taliadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, trwy ddefnyddio’r dewis digidol talu dros y ffôn.
Trwy ffonio 0845 309 6064, a dilyn y cyfarwyddiadau syml, gallwch wneud taliadau gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd trwy bwyso’r rhifau priodol.
Mae’r cyfleuster talu hwn yn gadael i chi dalu biliau’n uniongyrchol i’r Cyngor am y canlynol:
Neu ffoniwch 01978 292852.
yn ôl i'r brig
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd / credyd neu arian parod trwy ymweld â Galw Wrecsam yn 16 Stryt yr Arglwydd.
Ein horiau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am i 5.30pm.
Gallwch wneud taliadau hefyd yn eich Swyddfa Stad Dai leol.
yn ôl i'r brigAr hyn o bryd mae cardiau talu ar gael i holl denantiaid y Cyngor i dalu eu rhent. Maent ar gael hefyd i dalu Treth y Cyngor dan amgylchiadau cyfyngedig. Gall talwyr Treth y Cyngor sy’n byw yn eiddo’r Cyngor lle mae eu swyddfa stad leol wedi cau wneud cais am gerdyn i’r adran.
Mae modd defnyddio’r cardiau yn unrhyw Swyddfa Bost neu yn unrhyw Siop Paypoint.
yn ôl i'r brigI gael gwybod mwy am y gwasanaethau hyn, cysylltwch â’r adran briodol dros y ffôn neu drwy e-bost:
| Treth y Cyngor | 01978 292031 | counciltax@wrexham.gov.uk |
| Trethi Busnes | 01978 292030 | businessrates@wrexham.gov.uk |
| Dyledwyr | 01978 292078 | debtors@wrexham.gov.uk |
| Tai | 01978 315300 | housing@wrexham.gov.uk |
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?