Dychwelwch i'r dudalen talu Treth y Cyngor
Ydy, mae'n ddiogel. Mae'r wybodaeth rydych yn ei hanfon yn cael ei hysgrifennu mewn côd. Golyga hyn na all unrhyw un ei darllen wrth iddi deithio ar draws y Rhyngrwyd.
Byddwn yn derbyn eich manylion credyd drwy wasanaethydd diogel. Golyga hyn bod côd diogel yn cael ei ddefnyddio rhwng eich peiriant a gwasanaethydd y Cyngor. Yn ogystal, ni fyddwn yn storio manylion eich cerdyn credyd ar ôl prosesu eich tâl.
Mae cyfeiriadau gwefan traddodiadol yn dechrau gyda "http" - bydd cyfeiriad gwefan ddiogel yn dechrau gyda "https".
Unwaith i chi gyflwyno manylion eich cerdyn credyd i ni ac mae eich cwmni credyd wedi cytuno i'r taliad, bydd yn cael ei brosesu.
Unwaith i chi anfon manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd atom ac mae'r taliad wedi ei gymeradwyo, bydd eich cyfrif yn cael ei ddebydu o fewn dau ddiwrnod gwaith.
I ddechrau, gallwch dalu Treth y Cyngor a Threthi Busnes. Y bwriad yw cynnwys holl daliadau'r Cyngor ar-lein yn y dyfodol.
Os oes raid i chi gysylltu â ni, bydd rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gael ar ben y ffurflen talu.
Gydag amser, y bwriad yw eich galluogi i weld y swm sy'n ddyledus ar eich cyfrif. Yn y cyfamser, dylech gyfeirio at eich bil neu hysbysiad diweddaraf. Gallwch benderfynu ar y swm i'w dalu ond os na thalwch y swm sy'n ddyledus, ni fydd eich cyfrif yn ddiweddaredig.
Gallwch ddefnyddio Visa, Mastercard, Visa Delta, Switch, Solo neu Electron. Nid ydym yn derbyn American Express na Diners Club.
Nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n gwrthod eich cerdyn - eich banc neu gymdeithas adeiladu sy'n gwneud hyn. Os digwydd hyn, fe'ch cynghorwn i gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu'n uniongyrchol.