Mannau Cynadledda

Lleoliad canolog. Cysylltiadau cludiant gwych. Mannau cyfarfod â phopeth ynyddynt. Dim rhyfedd bod Wrecsam yn ateb y diben fel cyrchfan gynadledda.

Yma yn Wrecsam rydym yn deall anghenion busnes. Oherwydd ein bod yn bobl fusnes ein hunain.

Wrecsam yw pwerdy economi Gogledd Cymru ac mae’n ganolfan weithgynhyrchu ddatblygedig, amrywiol. Stad Ddiwydiannol Wrecsam yw’r fwyaf yng Nghymru a’r fwyaf ond dwy yn y DU gyfan. Ac mae Parc Technoleg Wrecsam ar gyfer busnesau sy’n gwthio terfynau cyfrifiadura, meddygaeth a fferyllion.

Mannau Cyfarfod…

Dewiswch chi. Mae gennym westai moethus gydag ystafelloedd cynadledda unswydd. Encilfannau hyfryd yn y wlad. Adeiladau modern prifysgol. O ie, a chastell.

Mae ein canolfannau chwaraeon hefyd wedi gweld taro ambell i fargen yn eu tro. Heb sôn am lawer o feithrin timau a chroeso corfforaethol.

Fe all diwrnod yn rasys Bangor Is-coed, 90 munud o bêl-droed yn y Cae Ras neu rownd o amgylch un o’n cyrsiau golff gyflawni mwy na misoedd o gyd-drafod.

Wedi’r cyfan, gallwch ddysgu llawer am bobl pan na fydd ond dwy droedfedd rhyngddynt ag ennill y gêm.

Cysylltiadau Cludiant…

Mae Wrecsam yn denu achlysuron a chynadleddau cenedlaethol oherwydd ei leoliad canolog a chysylltiadau cludiant gwych. Rydym o fewn dwy awr o yrru i draean poblogaeth y DU. A hanner ei diwydiannau gweithgynhyrchu.

Os yw’n well gan eich cynadleddwyr awyren neu drên, mae meysydd awyr Manceinion a Lerpwl yn llai nag awr oddi acw. Ac mae ein gorsafoedd trên (oes, mae gennym ddwy ohonynt) yn ein cysylltu â Chaerdydd, Llundain a phob man y tu hwnt.

Cysylltaidau Defnyddiol

yn ôl i'r brig