Cefn Gwlad A'r Pentrefi

Mae gennym gefn gwlad eithaf nefolaidd yma yn Wrecsam. Y pentrefi gwledig i gyd-fynd â hynny a digon o awyr iach i rannu.

Cerdded

Peidiwch â gadael i’r cyfan wibio heibio’ch car mewn niwl gwyrdd. Mae llawer ffordd well o glosio at gefn gwlad Wrecsam. Ar ddeudroed.

Mae milltiroedd lawer o lwybrau troed ym mhob cwr o Wrecsam. Ym mhob tirwedd y gallwch ddychmygu, o goetir a dyffryn afon i rostir gwyntog a mynydd grugog. Dim ond i chi fynd allan yna ac archwilio.

Gall Canolfan Groeso Wrecsam ddweud wrthych sut ar 01978 292015 neu e-bostio tic@wrexham.gov.uk.

Dyffryn Ceiriog…

Mae Taith Gerdded Dyffryn Ceiriog yn cychwyn yng ngorsaf drenau’r Waun ac yn gorffen wrth droed mynydd y Berwyn ym mhentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Gallwch gychwyn yn y naill ben neu’r llall – neu o unrhyw nifer o safleoedd bysiau ar y ffordd. Does dim rhaid i chi gerdded ar ei hyd, chwaith. Rhannwyd yn saith thema sy’n cymryd unrhyw beth o 30 i 90 munud yr un.

A does dim rhaid i chi roi’r gorau iddi wedyn. Mae pum taith gerdded allan o Bontfadog, pump o Lyn Ceiriog a chwech o Lanarmon. Gallwch gerdded o Lyn Ceiriog i’r Pandy, ar hyd hen Dramffordd y Glyn.

Ac, os ydych yn wirioneddol frwd, heb sôn am heini, gallwch ymgodymu â dwy daith gylch hir. Llwybr Ceiriog sy’n 23 milltir a Llwybr Ceiriog Uchaf sy’n 14 milltir. Lluniwyd ar gyfer marchogion ond cânt eu defnyddio’n rheolaidd gan gerddwyr o ddifrif.

Llwybr Maelor…

Mae Llwybr Maelor yn mynd drwy dair sir ar ei daith 24 milltir o Grindley Brook i Fronygarth yng nghysgod Castell y Waun.

Mae’n defnyddio cymysgedd hudolus o lwybrau troed, llwybrau ceffylau, lonydd tawel a llwybrau halio ar hyd y gamlas. Byddwch yn gweld golygfeydd o’r Berwyn a Gwastadedd Sir Gaer. Ac yn mynd drwy neu heibio pentrefi fel Bronington, Hanmer, Llannerch Banna ac Owrtyn – allai fod yn gyfle i gael seibiant. Heb sôn am beint.

Braidd yn arbennig yn ei rinwedd ei hun, mae hefyd yn cysylltu dim llai na chwech o lwybrau hirbell. Y Llwybr Tywodfaen, Llwybr De Sir Gaer, Llwybr y Mers a Llwybr Swydd Amwythig yn y dwyrain. A Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Thaith Gerdded Dyffryn Ceiriog i’r gorllewin. Pwy a ŵyr ble gallech chi gyrraedd?

Llwybr Clawdd Offa…

Un o ddim ond 12 Llwybr Cenedlaethol, mae’r llwybr (cyswllt allanol) hwn yn rhedeg am 177 milltir o Glogwyni Sedbury ger Cas-gwent i dref glan môr Prestatyn. Dyna Gymru o un pen i’r llall.

Enwyd ar ôl Offa Brenin Mersia ac mae’n aml yn dilyn y cloddwaith ysblennydd y gorchmynnodd ef ei godi yn yr wythfed ganrif. Mae’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr fwy nag 20 gwaith. Ac mae’n mynd drwy dair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – gan gynnwys Bryniau Clwyd ar stepan drws Wrecsam.

Efallai nad ydym yn ddiduedd ond rydym yn credu mai ein darn ni sy’n cynnwys yr adeiledd mwyaf trawiadol ar y llwybr cyfan. Pontcysyllte, Pont Ddŵr Thomas Telford, yr hwyaf a thalaf ym Mhrydain.

Wat’s Dyke way…

Mae Clawdd Wat (cyswllt allanol) yn fyrrach ac, mae’n rhaid i ni addef, yn llawer llai enwog na Chlawdd Offa. Ond mae’n gyfan gwbl fwy dirgel.

Yn y lle cyntaf, ni ŵyr neb pwy oedd Wat. Mae rhai’n meddwl ei fod yn un o frenhinoedd Mersia. Dywed eraill nad oedd erioed yn bodoli ac mai ystyr Wat yw “gwlyb” neu “garw”.

Ac, am amser maith, ni wyddai neb pryd godwyd y clawdd. Ond mae dyddio carbon bellach yn dangos mai rhywbryd rhwng y bumed a’r chweched ganrif oedd hynny.

Yr hyn a wyddom i sicrwydd yw y cymrwyd 10 mlynedd i gynllunio’r llwybr 61 milltir sy’n dilyn y cloddwaith. Mae’n cyrraedd ffin Wrecsam yn Owrtyn, yn croesi’r Ddyfrdwy yn Erbistog, yn mynd heibio Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cynnwys bedd Elihu Yale yng nghanol tref Wrecsam.

Yn olaf, trwy ddyffryn dwfn, daw allan ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun cyn croesi i Sir y Fflint. Ac nid yw’n fwy na thair milltir oddi wrth glawdd enwog Offa yn unman. Mae’n ymddangos bod hwnnw’n dipyn o gopïwr.

Cysylltiadau Defnyddiol

Parciau Gwledig

Does dim prinder tir agored yn Wrecsam. Mewn gwirionedd, mae 90% o’r sir yn wledig. Ond nid yw hynny wedi’n rhwystro rhag creu amrywiaeth eang o barciau i bobl fwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Mae gan rai ohonynt amgueddfeydd tymhorol, canolfannau ymwelwyr a chaffis. Mae rhai’n arddangos Dyfarniad Baner Werdd am ragoriaeth fel tiroedd glas cyhoeddus. Ac mae rhai wedi dod o weddillion ein treftadaeth ddiwydiannol.

Mae pob un yn unigryw, gyda’i raglen achlysuron ei hun ar gyfer y teulu cyfan. Gan gynnwys gwneud barcutiaid, dipio mewn pyllau a chyrchoedd ffyngaidd (neu chwilio am fadarch i chi a fi).

Chwilotwch yn yr hyn sydd gennym i gynnig, hyd yn oed lawrlwytho arweinlyfr.

Trefi a Phentrefi

Er mor braf yw’r awyr agored, weithiau mae angen i chi orffwys eich coesau, dal eich gwynt a threulio awr neu ddwy ddistaw’n siopa, yn ciniawa neu’n archwilio eglwys ganoloesol.

Yn ffodus, nid yw unrhyw ran o’n cefn gwlad yn rhy bell o breswyliad. Mewn gwirionedd mae digonedd o drefi a phentrefi sy’n edrych fel petaent wedi cael eu llunio’n arbennig i dynnu eich sylw o’ch cerdded. Ta waeth – bydd y mynyddoedd yn dal i fod yno yfory.

Bangor is-coed…

Mewn lle trawiadol ar y Ddyfrdwy, gallwch gyrraedd Bangor dros bont garreg gefngrom ganoloesol. Mae pysgota yn yr afon, golff gerllaw a rasio ceffylau heb fod nepell o ganol y pentref.

Y Waun…

Diolch i’w lleoliad strategol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae gan dref fach y Waun fwy o ryfeddodau na’r disgwyl. Pont ddŵr o waith Thomas Telford. Traphont gan Henry Robertson. Castell gwych a adeiladodd Edward I. O ie, a chwrs golff pencampwriaethol. Nid yn unig mae’n borth i Loegr, mae hefyd yn rhoi mynediad rhwydd at Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac i un o’r dyffrynnoedd harddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog.

Erbistog…

Nid yw’r lôn gul, goediog sy’n dirwyn o Bont Owrtyn heibio’r Garden House yn arwain i unman – heblaw i un o’r pentrefi prydferthaf yn Wrecsam. Mae lleoliad Erbistog ar lannau’r Ddyfrdwy wedi ysbrydoli paentwyr a ffotograffwyr ers canrifoedd. Cofiwch ymweld â’r eglwys neo-Gothig annisgwyl a’r hen beirianwaith tynnu, y cyfan sy’n weddill o’r fferi law. Yna, gan mai dyma’r fan lle daw’r ffordd i ben, trowch yn ôl. Bydd yn werth ei wneud.

Gresffordd…

Gydag eglwys yr Holl Saint, o’r 15fed ganrif, mae Gresffordd yn gartref i un o’r eglwysi prydferthaf yng Nghymru. Mae yno elusendai o’r 18fed ganrif a chraidd o adeiladau brics coch ger pwll sydd mor fawr fel mai ei enw lleol yw’r Llyn. Yno hefyd mae cofeb i’r diwrnod tristaf efallai yn hanes Wrecsam. Medi 22ain 1934, pan gollodd 226 o ddynion eu bywydau mewn trychineb pwll glo. Yn briodol ddigon, fe welwch y gofeb gyda’i holwyn pen pwll anferth ar diroedd Clwb y Gweithwyr.

Hanmer…

Priododd Owain Glyndŵr, y Cymro mwyaf erioed efallai, yn eglwys Hanmer yn 1383. Llosgwyd honno i’r llawr ond peidiwch â digalonni. Mae’r un a godwyd yn ei lle’n sefyll yn y fan fwyaf trawiadol yn Wrecsam i gyd. Fe ddowch ati o gyfeiriad llyn, a adawyd ar ôl y rhewlif, yn berwi o wyachod copog, elyrch a gwyddau Canada. Ewch i mewn drwy adwyau haearn addurnol a heibio i fynwent fawr ar hyd llwybr sy’n troi’n urddasol i fyny at yr eglwys. Byddwch yn barod i ryfeddu.

Holt…

Wel, nid Checkpoint Charlie yn union, ond ychydig gamau o Holt ar draws Hen Bont y Ddyfrdwy a byddwch mewn gwlad arall – Lloegr. Ymhlith adeileddau hynafol nodedig eraill mae adfeilion castell Holt ac eglwys Sant Chad, un o’r ychydig enghreifftiau o ddylunio canoloesol aeth o chwith yn ddifrifol ac sydd wedi goroesi. Mae ei thywodfaen yn frith o amhureddau, ei ffenestri’n rhy fawr ac un o’i bwtresi yn y lle anghywir. Mae’n dal i edrych yn brydferth, serch hynny, ac mae golygfa wych ohoni o ardd gwrw tafarn y Peal O’ Bells.

Owrtyn…

Mae pentref Owrtyn mor llawn o adeiladau hanesyddol y cafodd ei ddynodi’n ardal gadwraeth. Gwyliwch am Dispensary Row, rhes o fythynnod neo-Gothig gyda drysau a ffenestri bwaog. A’i Stryd Fawr arbennig o lydan, a ailgynlluniwyd mewn arddull aruchel ar ôl i Edward I roi statws bwrdeistref i’r pentref.

Yr Orsedd…

Efallai y bydd carwyr celfyddyd yn adnabod y Felin Uchaf ar afon Alun yn yr Orsedd. Cafodd ei braslunio gan JMW Turner yn 1795. Roedd ef ychydig yn rhy gynnar i alw heibio am baned yn yr Ystafelloedd Coco Fictoraidd ffrâm bren – banc erbyn hyn. Codwyd hwy i ddenu dynion ifanc o dafarnau’r pentref sydd yn dal i sefyll, bydd yn dda gennych glywed, ac yn dal i werthu fel slecs.

yn ôl i'r brig