Theatr fyw. Celfyddyd flaenllaw. Cerddoriaeth glasurol - a'r band bechgyn hynaf yn y byd. Diwylliant Cymreig gyda thro yn ei gwt.
Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011Ffaith. Mae 2011 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i Wrecsam.
Pam? Wel, beth am 200 o achlysuron diwylliannol a luniwyd i arddangos y gorau oll sydd gan y fwrdeistref sirol i gynnig.
Gyda’r enw swyddogol ‘Blwyddyn Ddiwylliant’ Wrecsam, bydd y rhaglen yn tynnu llond gwlad o wyliau, cyngherddau, arddangosfeydd a gweithgareddau ynghyd i weddnewid yr ardal yn ganolfan ddiwylliannol y Gogledd.
Y prif ddigwyddiad fydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam am y tro cyntaf ers 1977.
TheatrMae Rhosllannerchrugog, ychydig y tu allan i Wrecsam, yn nodedig am lawer rheswm. Yn ôl y sôn dyma bentref mwyaf Cymru. Mae ganddo amryw gorau gogoneddus. A dyma gartref y Stiwt (cyswllt allanol).
Fel arall yn cael ei alw’n Sefydliad y Glowyr, mae Theatr y Stiwt yn cynnal amrywiaeth eang o berfformiadau dramatig a cherddorol. Mae ei neuadd mor ddiweddar a llawn offer ag i gynnwys lifft hydrolig i gerddorfa hyd yn oed. Ac mae’n dal yn gymaint o ganolfan diwylliant Cymreig ag yr oedd pan agorodd yn 1926.
Mae cwmnïau teithiol fel Hijinx a Spike Theatre yn ymwelwyr rheolaidd â Theatr Stiwdio 150 sedd Coleg Iâl yn Wrecsam. Yn ogystal bydd yno gynyrchiadau myfyrwyr a grwpiau cymunedol lleol.
Mae Theatr Glan yr Afon yn fwy twt fyth – gyda lle i 120. Ond hwn yw cartref Cymdeithas Theatr Gerdd amatur Wrecsam yn bwysig o ran dramâu, sioeau cerdd a chodi arian at elusennau.
Hoelion wyth eraill y byd amatur yw Theatr Parc y Llwyni (cyswllt allanol). Cynyrchiadau sydd eto i ddod yn 2010 yw “The Canturbury Tales”, “The Flint Street Nativity” a “Cinderella”.
CelfyddydYma yn Wrecsam rydym yn gwneud mwy na dim ond edrych ar gelfyddyd, er mor foddhaol yw hynny. Rydym yn hoffi baeddu’n dwylo hefyd.
Oriel Wrecsam yw canolfan gelfyddyd y dref. Fel y byddech yn disgwyl, mae’n lle gwych i weld arddangosfeydd o gelf a chrefft gyfoes orau oll.
Ond os dowch ar gyfer Clwb Celf Dydd Sadwrn, y sesiynau Paentio er mwyn Pleser neu’r dosbarth lluniadu’r byw, gwell i chi fod yn barod i dorchi eich llewys. Rydym yn credu y dylai celfyddyd fod yn rhyngweithiol.
Mae Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndŵr (cyswllt allanol) hefyd yn dal y fantol rhwng bri sefydledig a doniau eginol. Mae’n rhoi lle amlwg i waith artistiaid byd-enwog. A gwaith y rhai allai fod yn enwog rywbryd – ei myfyrwyr ei hun.
Mae’r arddangosfeydd newidiol yn Oriel Goffa Coleg Iâl (cyswllt allanol) yn ysbrydoli’r myfyrwyr celf, dylunio a’r cyfryngau yno. Am ddwyawr bob prynhawn gwaith, gall y cyhoedd fanteisio arnynt hefyd. Am gwybodaeth mwy ffôn Oriel Gelf Goffa 01978 311794.
Mae dynion Côr Meibion Froncysyllte’n eithaf enwog y dyddiau yma. Efallai eich bod yn eu hadnabod fel “The Voices of the Valley”, enw eu CD lwyddiannus. Neu efallai fel “y band bechgyn hynaf yn y byd”.
Mor enwog, yn wir, eu bod yn tueddu i ganu mewn canolfannau pur fawr. Ac nid ydynt yn dod fawr mwy na Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd neu Neuadd Albert yn Llundain.
Ond gallwch eu clywed mewn lleoliad llawer mwy cartrefol. Neuadd ysgol, i fod yn fanwl. Dwywaith yr wythnos, yn union fel y gwnaethant ers 1947, bydd dynion y côr yn dod at ei gilydd i ymarfer. Ac nid yw ddim gwahaniaeth ganddynt os byddwch yn galw heibio i wrando.
Ffoniwch am fanylion ymarferion ar 01978 292015 neu e-bostio tic@wrexham.gov.uk
Cerddoriaeth GlasurolMae clywed cerddorfa ddi-ail yn brofiad arbennig iawn. Ac mae 890 sedd Neuadd William Aston ym Mhrifysgol Glyndŵr (cyswllt allanol), Wrecsam, yn fan sy’n gallu arddangos y gorau sydd ohoni.
Yno clywyd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa’r Hallé, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ac Opera Cenedlaethol Cymru. Heb sôn am Fale Gŵyl Fienna.
Nid yw popeth mor uchel-ael ar y campws, cofiwch. Croesawyd sylwebydd criced Henry Blofeld, a grŵp teyrnged Abba i’r neuadd hefyd. Mae gigs a nosweithiau comedi ym Mar yr Undeb. A drama a cherddoriaeth yng Nghanolfan newydd Catrin Finch a gostiodd £3 miliwn.
Darganfod GwyddoniaethMae hwyl mewn gwyddoniaeth. Wir. O leiaf pan fydd gennych fwy na 60 o gemau ac arddangosion rhyngweithiol cyffrous. Gan gynnwys pelen yn troelli gyda grisialau’n llifo a “mur cysgod” bwganllyd sydd â’i fywyd ei hun.
Yn cael ei alw’n ddiwrnod allan mwyaf ymestynnol Gogledd Cymru, bwriad Techniquest Glyndŵr (cyswllt allanol) yw archwilio cyfrinion gwyddoniaeth – trwy gyfrwng twrw mawr a llysnafedd llithrig.
Mewn un awr mae’r haul yn trosglwyddo mwy o ynni i’r ddaear nag mae dynolryw’n ei ddefnyddio mewn blwyddyn. Bydd canolfan ymwelwyr ynni’r haul yn ffatri Sharp yn Llai, sy’n agor yn 2010, yn egluro sut fyddai dal dim ond rhan fechan o hyn yn datrys problemau ynni’r byd.