Pwy ddywedodd na ddaw dim byd da fyth yn rhwydd? Mae’n hawdd iawn cyrraedd Wrecsam o bob cyfeiriad.
Rydym mewn lle da o ran ffordd gyflym yr A55 i’r gorllewin, yr M62 tua’r dwyrain, yr M53 a’r M56 tua’r gogledd a’r A5 a’r M54 tua’r de. Awr i ffwrdd yw Lerpwl a Manceinion, mae Birmingham yn llai na dwyawr ac mae hyd yn oed Llundain a Glasgow o fewn pedair awr.

Mae gennym ddwy orsaf drenau. Yr Orsaf Ganolog sydd, fel y gallech ddychmygu, yng nghanol y dref. A’r Orsaf Gyffredinol, tair munud o’r dref ar ddeudroed. Dwy orsaf gyda dau gysylltiad uniongyrchol â Llundain. Gallwch ddewis rhwng Euston a Marylebone.
Gall fynd â chi hefyd i Gaerdydd, Caer ac Amwythig gyda chysylltiadau â Lerpwl. A chysylltiadau bws i Ddyffryn Ceiriog hyfryd.
Mewn gwirionedd, gallwch weld llawer o Wrecsam ar y bws. Mae’n rhad, yn gyfleus ac yn ecogyfeillgar. Neidiwch ar un yn yr orsaf fysiau yn Stryt y Brenin.