Treftadaeth

Yn Wrecsam mae dewis rhyfeddol o atyniadau hanesyddol. Gan gynnwys pont ddŵr sy’n un o’r mannau mwyaf nodedig ar y blaned, yn swyddogol.

Safle Treftadaeth y Byd Pont Ddŵr Pontcysyllte a'r Gamlas

Mae’n 126 troedfedd o daldra a 1,007 troedfedd o hyd. Ond yn rhyfeddol o gul. Yn enwedig pan fydd eich llaw ar y llyw.

Deunaw piler carreg mawr sydd yma’n dal cafn haearn bwrw sy’n cludo Camlas Llangollen yn bensyfrdanol dros y Ddyfrdwy. Cafn sy’n dal dŵr oherwydd gwlanen Gymreig, plwm a siwgwr berwedig. Neu daffi triog i chi a fi.

Unwaith y byddwch wedi croesi’r ‘nant yn y nen’, rydych yn barod i ddarganfod gweddill Safle Treftadaeth y Byd… pob un o’i 11 milltir. Yn ymestyn o Raeadr y Bedol ger Llangollen i Bont Ddŵr y Waun a Phont Gledryd, mae’r gamlas yn crwydro drwy gefn gwlad braf y Gogledd i Swydd Amwythig.

Ac os ydych yn ffansïo bod yn gapten ar eich cwch eich hun, beth am wyliau ar y dŵr ac archwilio gweddill camlas Llangollen hefyd? Yn ôl Dyfrffyrdd Prydain dyma un o’r darnau dyfrffordd prysuraf a harddaf yn y DU. Mae’n 41 milltir o hyd ac mae’n cymryd o leiaf 3 diwrnod i’w theithio – yno ac yn ôl.

Gallwch logi eich cwch eich hun o’r marinâu poblogaidd yn y Waun a Threfor neu gallwch fynd ar daith bleser. Felly, does dim rhaid i chi boeni ynghylch llywio trwy lociau neu daro cychod eraill. Gall y rhai sy’n ddifrifol hamddenol hyd yn oed fynd ar daith cwch camlas wrth gwt ceffyl o Lanfa Llangollen.

Cysylltiadau Defnyddiol

Adeiladau Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dim yn bodlon efo un, mae gan wrecsam 2 gem Ymddiriedolaeth Genedlaethol (cyswllt allanol).

Erddig…

Yn enwog fel un o dai hanesyddol brafiaf Prydain, mae Erddig yn blasty diddorol ond dirodres o’r 18fed ganrif gynnar yn adlewyrchu bywyd teulu bonedd uwchlaw ac islaw’r grisiau dros 250 mlynedd.

Erddig yw un o ychydig eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (cyswllt allanol) yr ewch iddynt drwy’r drws cefn. Oherwydd mai dyma’r plasty eithaf “uwchlaw ac islaw’r grisiau”. Mae’n dweud cymaint am y gweision a morynion â’r perchenogion.

Castell Y Waun…

Dewiswyd gerddi’r Waun unwaith fel y rhai gorau yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (cyswllt allanol). Yma gallwch gerdded ar hyd rhodfa bisgwydd drawiadol o’r 17eg ganrif. A gweld golygfeydd dros naw sir.

Un o gaerau’r Mers yw’r castell ei hun, yn dyddio o 1310. Ond nid adfail mo hwn. Mewn gwirionedd, bu rhywun yn byw yno am y 700 mlynedd diwethaf. Mae’r ystafelloedd seremonïol ysblennydd o’r 18fed ganrif yn orlawn o waith plastro cywrain, dodrefn arddull Adam, tapestrïau a phortreadau.

Archwilio Eglwysi

Eglwys San Silyn…

Can troedfedd a phymtheg ar hugain o uchder ac yn un o Saith Ryfeddod Cymru, mae meindwr Eglwys San Silyn yn Wrecsam i’w weld yn amlwg o gryn bellter.

Ond rhaid i chi ddod yn llawer nes i weld holl ryfeddodau’r eglwys o’r 16eg ganrif. Y paentiad prin o Dynged ar y mur uwchlaw bwa’r gangell. Angylion euraid yn chwarae cerddoriaeth nefol yn uchel yng nghorff yr eglwys. Neu fedd Elihu Yale gyda’i arysgrif a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun.

Wedi’i eni yn Boston yn 1649, dychwelodd Yale i wlad ei febyd yn dair oed a byw ger Wrecsam. Aeth yn ôl i America’n ddyn cyfoethog a gwnaeth rodd hael i Ysgol Golegol Connecticut.

Roeddent mor ddiolchgar ag i ailenwi’r coleg ar ei ôl. A gallwch ddal i weld copi o feindwr San Silyn ar diroedd Prifysgol Yale. Yn well fyth gallwch esgyn y tŵr gwreiddiol i weld golygfeydd trawiadol o dref Wrecsam i gyd a thu hwnt. I gadw lle ar gylchdaith y tŵr, ffoniwch 01978 355808.

Rhwydwaith Eglwysi Agored...

Nid yn unig mae eglwysi Wrecsam yn fannau gweddi a myfyrdod, maent hefyd yn drysorau pensaernïol. Ac maent yn gwneud hanes ein trefi a phentrefi, terfysglyd weithiau, yn fyw iawn.

Yn Eglwys Sant Chad yn Holt gallwch weld y tyllau bwledi a adawodd ysgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr. Yng Nghadeirlan y Santes Fair, Wrecsam, cysegrwyd capel i’r merthyr Richard Gwynne. Crogwyd, diberfeddwyd a chwarterwyd hwnnw yn 1584 – a chafodd ei wynfydu yn 1972.

Ac, yn Eglwys y Santes Fair yn y Waun, caiff brwydr grym rhwng teuluoedd mawr lleol Trevor a Myddelton ei mynegi trwy gerfluniau coffa tanbaid eithriadol.

Daeth pymtheg o’n heglwysi ynghyd i ffurfio’r Rhwydwaith Eglwysi Agored, pob un gyda’i stori gymhellol ei hun i’w hadrodd. Ac i gyd yn barod iawn i groesawu ymwelwyr.

Cysylltwyd hwy gan Lwybr Darganfod mewn chwe rhan. Mae pob rhan yn gwneud diwrnod pleserus allan mewn car gyda gwyriadau i blasau, pontydd dŵr a gwarchodfeydd natur. Gallwch gyrraedd y rhan fwyaf ohonynt ar y bws, ar gefn beic – neu mewn esgidiau mawr.

Amgueddfa

Mae gan Wrecsam fwy na’i siâr o hanes a threftadaeth.

yn ôl i'r brig