Wrecsam Go Iawn. Teimlwch y wefr. Gwylio ffilm, gwrando ar fand, taro deg. A dadflino wedyn yn un o’n tafarnau, bariau neu dai bwyta.
Fyddem ni ddim yn dweud nad yw tref Wrecsam fyth yn cysgu. Ond mae’n aros ar ei thraed yn ddigon hwyr i ryngu bodd y partïwr mwyaf brwd. Fel y bydd tro bach hwyrol heibio goleuadau disglair Glan yr Afon yn dangos.
Yno fe welwch Liquid ac Envy – dau glwb nos dan un to. Ynghyd â rig oleuadau ddiweddaraf, llwyfannau dawnsio, taflunydd mur 360 gradd a golchiadau lliw LED.
The Magic Numbers, The Charlatans, Goldie Lookin’ Chain, The Kooks, Kasabian, Grandmaster Flash, Wonderstuff, John Cale a Robert Plant.
Pan fyddwch yn croesawu grwpiau o’r fath safon, dim rhyfedd fod cylchgrawn Kerrang a The Independent yn penderfynu mai chi yw safle arweiniol cerddoriaeth fyw yng Nghymru.
Mae Central Station (cyswllt allanol) a’i fan cyfarfod i lawr y grisiau, Yales Café Bar, yn cynnig cymysgedd meddwol o gigs, nosweithiau clwb a chomedi. Ac os ydych yn ddigon dewr, bob nos Lun mae’r meic yn agored.
Rhowch gynnig ar lond gwlad o fannau eraill lle mae cerddoriaeth fyw fel tafarn y Commercial ac Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr (cyswllt allanol). Maent yn helpu gwneud Wrecsam yn fagwrfa talent yn y ffurfiau roc, indie ac arall.

Mae caffis, bariau a thai bwyta canol tref Wrecsam yn darparu ar gyfer bron bob chwaeth. Fe gewch yr estron - Indiaidd, Thai, Chineaidd, Eidalaidd. Fe gewch Americanaidd ar ffurf Chicago Rock Café ac Arnold’s. Ac yn L’etage ar Stryt yr Abad mae gennym ein bar caffi Ffrengig cyntaf, “y lle i gyfarfod, yfed, bwyta a chael eich gweld” yn ôl y sôn.
Hefyd mae bwyd ychydig yn nes adref. Meddyliwch amdano fel Prydeinig modern gyda blas Cymreig penodol.
Gallwch ddisgwyl gweld digonedd o gigoedd, cawsiau a llysiau tymhorol lleol ar y fwydlen. Ynghyd â bwyd môr ffres o fymryn i fyny’r ffordd – fel cregyn gleision o Gonwy neu Afon Menai.
Mae cynnyrch lleol yn bwysig i lawer o’n tafarnau gwledig. Maent yn teimlo bod blas gwell arno. Ac mae’n mynd mor dda gyda gwydraid o gwrw o ficrofragdy lleol.
Ymysg llawer o rai eraill, rydym yn argymell Cwrw Chwerw Plasau. Pleidleisiwyd yn Bencampwr Cwrw Cymru dair blynedd yn olynol. Ond gwell i chi sicrhau bod rhywun arall yn gyrru.
Wyddoch chi fyth. Efallai mai hwn yw eich diwrnod lwcus. Mae Mecca Bingo (cyswllt allanol) poblogaidd iawn yn Ffordd Smithfield yn cynnal tri sesiwn bingo bob prynhawn a hwyr.