Cynllun Plentyn Diogel Wrecsam - Cyngor i rieni, gofalwyr a plant

Tu mewn i amgylcheddau siopa prysur heddiw, mae'n rhy hawdd o lawer i blant bach gael eu gwahanu o'u rhieni neu oedolion eraill sy'n gofalu amdanynt. Pan fydd plentyn bach yn mynd ar goll ar stryd brysur neu mewn siop neu ganolfan brysur, gall fod brofiad gofidus i'r oedolyn a'r plentyn.

Bydd y rhan fwyaf y plant sy'n mynd ar goll wrth fod allan yn siopa'n cael eu haduno gyda'u teuluoedd yn gyflym iawn. Fodd bynnag, mae plentyn coll yn hawdd ei niweidio a dylai wybod beth i'w wneud yn yr amgylchiadau hyn. Mae'r Cynllun Plentyn Diogel yn rhoi cyngor i blant, rhieni, gofalwyr a staff siopau dan gynllun 'Crimelink' Wrecsam..

Mae Partneriaeth Plentyn Diogel Wrecsam yn ymagwedd bartneriaeth at helpu aduno plant bach â'u rhieni os ydynt yn cael eu gwahanu wrth fod allan yn siopa neu mewn torf.

Helpwch i gadw plant yn ddiogel trwy wybod beth i'w wneud.



Cyngor i rieni a gofalwyr

Helpwch i atal plant rhag mynd ar goll:

  • Anogwch blant i aros ger eich ochr mewn siopau ac i ddal eich llaw neu'r troli
  • Peidiwch â gadael plant mewn mannau chwarae heb oruchwyliaeth
  • Rhowch ffrwynau neu wregysau arddwrn ar blant bach os byddwch mewn man prysur

Helpwch i ddod o hyd iddynt yn gyflym os ydynt ar goll:

  • Sicrhewch fod plant yn adnabod llun 'dal dwylo' y Cynllun Plentyn Diogel (mae ar y daflen hon)
  • Sicrhewch fod plant yn gwybod bod staff siopau'n gwisgo gwisgoedd penodol a bathodynnau adnabod. Dysgwch iddynt ddweud wrth gynorthwyydd os ydynt yn mynd ar goll (mae staff ger desgiau talu'n hawdd eu hadnabod)
  • Dysgwch eich plant i roi eu henwau, cyfeiriad a rhif ffôn i staff.

Os cewch eich gwahanu o'ch plentyn:

  • Ewch i'r ddesg dalu agosaf neu gofynnwch i'r aelod staff agosaf atoch
  • Yn y stryd, ewch i'r eiddo agosaf sy'n arddangos y logo 'Plentyn Diogel'
  • Rhowch fanylion y plentyn coll i'r staff er mwyn iddynt gylchredeg disgrifiad ar y radio 'Crimelink' i aelodau eraill yn Wrecsam.
  • Os na allwch ddod o hyd i'r plentyn, gofynnwch i'r staff gysylltu â'r heddlu.

Cyngor i blant

Os ydych ar goll:

Os na allwch weld y sawl yr aethoch i siopa gydag ef neu hi:

  • Stopiwch
  • Arhoswch yn llonydd
  • Chwiliwch o gwmpas amdanynt
  • Peidiwch â rhedeg o gwmpas.

Os gwelwch y sawl roeddech gydag ef neu hi:

  • Ewch yn syth yn ôl atynt a daliwch eu llaw.

Os ydych mewn siop ond nad ydych yn medru gweld y sawl roeddech yn siopa gyda nhw:

  • Ewch i ddesg dalu a dywedwch wrth y sawl sy'n gweithio yno eich bod ar goll

Os ydych ar goll mewn canolfan siopa neu ar stryd:

  • Chwiliwch am siop sy'n arddangos y logo 'plentyn diogel

Os na allwch weld siop sy'n arddangos yr arwydd hwn AR UNWAITH, ewch i mewn i siop arall. Dywedwch wrth rywun sy'n gweithio ar y ddesg dalu neu'r ddesg gwybodaeth eich bod ar goll.

COFIWCH - PEIDIWCH Â MYND AT UNRHYW UN ARALL.

Cyngor i staff siopau

Os gwelwch blentyn bach ar ei ben ei hun neu os daw plentyn bach atoch i ddweud ei fod ar goll:

  • Ewch i lawr i lefel y plentyn
  • Gwenwch a dywedwch wrth y plentyn beth yw eich enw chi a'ch bod yn gweithio yno. Dangoswch eich bathodyn enw i'r plentyn os oes gennych un.
  • Ceisiwch ddarganfod enw'r plentyn. Chwiliwch o'ch cwmpas yn gyflym gyda'r plentyn
  • Hysbyswch weithredwyr TCC trwy'r radio Crimelink. Defnyddiwch y system sain ond peidiwch â chyhoeddi enw'r plentyn.
  • Cwblhewch ffurflen ddisgrifiad 'Plentyn Diogel' a fydd gan y siop dan y cynllun hwn.
  • Cadarnhewch pwy yw'r sawl sy'n hawlio'r plentyn a sicrhewch fod y plentyn yn ei adnabod. Peidiwch â rhyddhau'r plentyn i unrhyw un dan 16 oed. Os ydych yn amheus, ffoniwch yr heddlu.
  • Os na chaiff y plentyn ei gasglu, mae'n well i'r aelod o staff a welodd y plentyn yn gyntaf aros gyda'r plentyn. Os bydd angen symud y plentyn i ystafell ar wahân am unrhyw reswm, dylai o leiaf dau aelod o staff aros gyda'r plentyn bob amser.
  • Os na ellir dod o hyd i'r rhiant neu'r gofalwr, cysylltwch â'r heddlu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch:

Swyddog Prosiect Canol y Dref
Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam.
Ffôn: 01978 292540
Ebost: tourism@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig