Pleser prynu. Y therapi gorau oll. Dyma ragflas bach o beth all Wrecsam gynnig i siopaholics brwd.

Os gwnewch chi ychydig o siopa yn Wrecsam, fe sylwch ar rywbeth yn bur gyflym. Rydym yn hoffi sgwrsio. Mae’n dod wrth fod yn dref farchnad.
Mae tair marchnad dan do yn Wrecsam. Gyda mwy na 100 o stondinau’n gwerthu popeth o selsig a stêc i ddodrefn a ffasiynau. A’r rhan fwyaf o’r stondinwyr ond yn aros am esgus i ddechrau sgwrs.
Yn Wrecsam mae bob dydd yn ddiwrnod marchnad fwy neu lai. (Rydym yn dal i hoffi cael dydd Sul yn rhydd i ddal ein gwynt.) Felly mae’r Farchnad Gig, y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Bobl i gyd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn – er bod y ddwy gyntaf yn cau’n gynnar ar ddydd Mercher.
Rydym yn dal i hoffi bod allan yn yr awyr iach, hefyd. Bob dydd Llun yn Sgwâr y Frenhines byddwn yn cynnal un o’r marchnadoedd awyr agored mwyaf yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn cynnal marchnadoedd awyr agored eraill drwy gydol y flwyddyn i nodi achlysuron arbennig, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi.
I gael gwybod mwy am farchnadoedd Wrecsam, ffoniwch 01978 292015 neu ebost tourism@wrexham.gov.uk.
Yr Enwau MawrMae Dôl Eryrod (cyswllt allanol) yn ffurfio wyth erw o ganol tref Wrecsam. Mwy na digon o le i ddal ychydig o enwau adwerthu mawr iawn.
Daeth â Debenhams, H&M, Starbucks, Bank a Jane Norman i’r dref am y tro cyntaf. A rhoddodd gartref newydd i M&S, Next, River Island a llawer mwy o’r siopau mawr.
Yn y Ddôl, fel y'i gelwir, mae lleoedd parcio hefyd i bron 1,000 o geir. Dim rhyfedd fod y lle ar restr fer Datblygiad Adwerthu’r Flwyddyn.
Os ydych yn meddwl bod maint yn bwysig, fe gewch enwau mawr eraill ynghanol y dref. A chryn dipyn mwy ym mharciau adwerthu’r Gororau a Phlas Coch allan o’r dref.
Siopau AnnibynnolMawr a hardd, ie. Ond hefyd mae yma’r bach a pherffaith ei ffurf. Ochr yn ochr â’n mannau adwerthu sylweddol rydym wedi cadw strydoedd hanesyddol fel Allt y Dref, Stryt y Banc a Rhes y Deml. Ac arcedau traddodiadol fel arcêd Owrtyn a’r arcêd Ganolog.
Yma fe welwch y siopau annibynnol sy’n helpu rhoi calon a swyn i Wrecsam. Ar eu pennau’u hunain. Y math o siopau y bathwyd y geiriau “od” a “gwreiddiol” ar eu cyfer.
Boutiques a dilladwyr dynion. Siopau llyfrau a bwytai cwrw. Salonau trin gwallt, dylunwyr gemwaith, siopau anrhegion, stiwdios ffotograffwyr. Fe welwch nhw i gyd yng nghalon Wrecsam.
Cadwch eich llygaid ar agor. Mae cefn gwlad Wrecsam yn cynnig pleser prynu mewn mannau annisgwyl. Fel Canolfan Grefftau a Siopa’r Plasau (cyswllt allanol). Mewn 247 erw o barcdir ger Bangor Is-coed, mae yno 25 siop gan gynnwys cynllunydd tai, boutique a gof. Heb sôn am ganolfan arddio, cwrs golff a bragdy.
Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 780277.