Mwy o ffyrdd o chwysu yn yr awyr agored nag y gallwch ddychmygu. Ynghyd â lliaws o gyfleusterau chwaraeon o radd ryngwladol.
GolfRydych yn sefyll ar y ti cyntaf. Mae’r haul yn tywynnu a’r bel yn eistedd i fyny’n ddel. Un siglad eto o’r cluniau ac rydych yn barod i fynd. Ond pa mor hyderus ydych chi’n teimlo?
I’r ychydig sy’n ofnus, fe all “Cwrs Capten David” yng Nghlwb Golff y Waun chwarae mor fyr â 5,525 llath. Ond, os yw’r grym o’ch plaid, mae’r “Tiger Tees” bondigrybwyll yn gallu ymestyn hyn i glamp o 7,045 llath.
Mae’r cwrs 200 erw hwn ar lan Camlas Llangollen, gyda golygfeydd gwych o Gastell y Waun, yn cynnig profiad chwarae golff sy’n nodweddiadol o Wrecsam.
Prawf go iawn. Croeso cyfeillgar. Prisiau cystadleuol. A rhywbeth ychydig yn wahanol. Pa un ai ydych yn chwilio am her pencampwriaeth 18 twll, fel Clwb Golff Wrecsam, neu gwrs naw twll golygfaol fel Canolfan Golff Darland yn yr Orsedd.
Byr ond blasus yw Darland gyda thïau a glasloriau o safon USGA. A dim darnau hawdd. Peidiwch â dweud na chawsoch eich rhybuddio ynghylch y nawfed twll arwyddol. Tro cam i’r chwith i laslawr sy’n cael ei amddiffyn gan goed ar un ochr a llyn ar y llall.
Beicio MynyddRydych yn ennill eich brecwast go iawn yng Nghoed Llandegla (cyswllt allanol) yn Sir Ddinbych gyfagos. Mae ei lwybrau beicio mynydd, pob un gyda’i god lliw, mewn 650 erw o goetir sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy.
Mae’r llwybr gwyrdd yn wych ar gyfer teuluoedd a’r llwybr glas yn berffaith i ddechreuwyr – a gallwch logi beic os nad oes gennych un eich hun.
Ond mae Llandegla hefyd yn denu’r selogion. Mae 11 milltir y llwybr coch yn cynnwys rhan un llinell ddiwyneb, rhannau igam-ogam ysgafellog, cnyciau a rhydau. O ran y llwybr du … wel, ddywedwn ni ddim mwy na bod angen coesau cryf a nerfau o ddur.
Pan fyddwch wedi cael eich gwynt atoch yn y ganolfan ymwelwyr ecogyfeillgar sy’n cael ei rhedeg gan One Planet Adventure, gallwch gladdu un o’u brechdanau bacwn enwog. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 751656.
CeffylauProfiad unigryw’n llythrennol yw rasio ceffylau ym Mangor Is-coed (cyswllt allanol). Yr unig gae rasys yn y wlad heb brif stand. Nid bod hynny o bwys pan fo’r olygfa mor dda o’r cefnau gwair sy’n ffurfio’r amffitheatr naturiol hon yn edrych dros fryniau Cymru.
Mae rasio National Hunt am 11 mis y flwyddyn a chyfleusterau croeso di-ail trwy garedigrwydd Heathcotes. Neu gallwch ddod â’ch lluniaeth eich hun. Caiff cwsmeriaid yn lloc y cwrs godi gwylfeydd, dod â’u picniciau eu hunain neu hyd yn oed gynnau barbiciw. Gwelwch yr adran achlysuron ar dudalen 58 am ddyddiadau rasio.
Os ydych eisiau marchogaeth yn lle gwylio, mae llwybrau ceffylau’n cris-croesi Wrecsam, gan gynnwys Llwybr Ceiriog a’i frawd bach Llwybr Ceiriog Uchaf. Dwy daith gylch yn dod i 37 milltir o dir garw hardd.
Mae gennym ddigonedd o ganolfannau marchogaeth i’ch cynghori – a cheffyl os byddwch angen un. Rydym hefyd yn cynnig B&B ceffylaidd os ydych am roi gwyliau i’ch cyfeillion pedair goesog eich hun. Am gwybodaeth mwy ffôn 01244 304610.
PysgotaTrueni gwastraffu’r holl awyr iach yna. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau brawychus i droi ein byd mawr awyr agored yn un cae chwarae antur mawr.
Brithyll yn Afon Ceiriog. Penllwyd, siwin ac eogiaid yn y Ddyfrdwy. Heb sôn am y barfogyn mawr ym Mangor Is-coed.
Draw o lan yr afon mae pysgodfeydd hela gwych gan gynnwys y Waun gyda’i frithyll seithliw, llwyd, euraid a glas. (Os na chewch hwyl arni, piciwch heibio Fferm a Mygfa Frithyll y Waun yn hytrach.)
Ac mae ein pysgodfeydd bras fel Pyllau Sonlli a Trench Farm yn Llannerch Banna’n orlawn o’r pysgod eithaf – carpiaid mawr.
Shame to waste all that fresh air. We offer a wide range of white-knuckle activities to turn our great outdoors into one big adventure playground.
Mae Motor Safari (cyswllt allanol) yn gwneud y cyfan. Gyrru sglefrio rali, gyrru oddi ar y ffordd, cychod modur, hebogyddiaeth, rafftio dŵr gwyn. Fel y gwelwyd ar “Top Gear”, “Blue Peter” a “The Holiday Programme” ymysg llawer o rai eraill. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 754533.
Dylai’r wal ddringo yn Antur Plas Power (cyswllt allanol) beri bod eich adrenalin yn llifo hefyd. Mae’n fawr – yn fwy na 6,000 troedfedd sgwâr. Ac mae’n boblogaidd iawn gyda’r plant. Sy’n aml yn gwneud yn well na’u rhieni, yma ac ar y cwrs rhaffau – yn cynnwys gwifren wib 100 troedfedd, llwyfan abseilio a rhywbeth yn dwyn yr enw brawychus “naid i’r tywyllwch”. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 754747.
Pêl-DroedEin theatr freuddwydion ni ein hunain. Y Cae Ras yw cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam (cyswllt allanol) – trechwyr cewri fel Arsenal, Spurs a hyd yn oed FC Porto drwy’r blynyddoedd.
Hwn hefyd yw stadiwm pêl-droed rhyngwladol cyfredol hynaf y byd. Ac nid y bêl gron yw popeth yno. Mae’n croesawu gemau rhyngwladol rygbi’r cynghrair a rygbi’r undeb, hefyd. Mewn gwirionedd, chwaraewyd gemau Cwpan y Byd ymhob un o’r tri yma. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 262129.
Er mai dim ond lle i 2,000 sydd yn Lôn Plas Kynaston yng Nghefn Mawr, mae’n gartref clwb pêl-droed hynaf Cymru, Derwyddon Cefn (cyswllt allanol). Unwaith yn goncwerwyr Bolton Wanderers nerthol yng Nghwpan yr FA yn 1882 ac yn awr yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 824279.
Erbyn hyn mae Wrecsam yn gartref i’w dîm rygbi’r cynghrair ei hun, y Croesgadwyr (cyswllt allanol). Beth am brofi awyrgylch un o’r gemau?
TennisRydym yn caru ein tennis. Ac nid yn unig yn ystod pythefnos Wimbledon. Mae’r chwe chwrt dan do a 10 awyr agored yng Nghanolfan Tennis Gogledd Cymru (cyswllt allanol) yn Wrecsam o radd ryngwladol. Bydd ein hyfforddwyr yn helpu i chi ddod i’r un safon.
Unrhyw bryd y byddwch yn ffansïo taro ychydig o beli, gallwch chwarae ar y cyrtiau ym Mharc Gwaunyterfyn a’r Parciau yn Wrecsam neu ym Mharc y Ponciau yn y Rhos. Am ddim. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 265260.
Daw prif athletwyr i Stadiwm Queensway. Gan gynnwys sêr Olympaidd Cymru ei hun – Colin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomas a Christian Malcolm.
Ond mae hefyd yn croesawu diwrnodau chwaraeon ysgolion a rasys hwyl lleol. Ac mae’n gartref Clwb Athletau Wrecsam, sy’n helpu sêr eginol o wyth oed ymlaen baratoi eu cyrff. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 355826.
Holwch am wybodaeth am yr holl cyfleusterau hamdden mae wrecsam yr cyflwyno.