Aros Yma

Pa un ai ydych yn ffansïo bwthyn hunanarlwyo, gwesty crand neu noson dan gynfas, byddant yn archebu gwely i chi. Ynghyd â thocynnau theatr neu gyngerdd, os ydych yn dymuno.

Canolfan Groeso Wrecsam
Ffôn: 01978 292015
Ebost: tic@wrexham.gov.uk

Ymwelwyr Sy'n Ei Chael Yn Anodd Symud

Mae canol tref Wrecsam ar gyfer cerddwyr yn unig ac mae’n ddiogel a hawdd mynd o amgylch. Mae gennym ganolfan Shopmobility sydd â sgwteri a chadeiriau olwyn. Am ragor o wybodaeth gallwch ffonio Gorsaf Fysiau Stryt y Brenin ar 01978 292065.

Yn y rhan fwyaf o’n hatyniadau mae mynediad ar gyfer pobl anabl. Mae rhai hefyd yn darparu bysiau addasedig, dringwyr grisiau a phadiau Braille.

Ac mae llawer o’n parciau gwledig yn cynnwys teithiau cerdded a addaswyd yn arbennig neu erddi gyda pharthau synhwyraidd. Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn gartref y prosiect Pŵer Pedalau lle cewch fynd ar feiciau tair olwyn ar lwybr cylch rhydd o draffig drwy’r parc. Am gwybodaeth mwy ffôn 01978 763140.

yn ôl i'r brig