Oherwydd natur y dudalen hon, gallai rhai cysylltiadau ymddangos yn Saesneg.
Gwefan Croeso Cymru ar gyfer defnyddwyr, sefydliad twristiaeth cenedlaethol Cymru o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am letyau, gweithgareddau a’r ystod o bamffledi sydd ar gael.
Mae’r wefan hon wedi’i llunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant twristiaeth ac mae’n cynnwys y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Groeso Cymru yn ogystal â gwybodaeth ar gyfer gwerthwyr teithiau sy’n dymuno datblygu cynnyrch yng Nghymru.
Mae gwefan isadran dwristiaeth y Cyngor yn cynnwys llu o wybodaeth am Wrecsam gan gynnwys oriau agor y Ganolfan Groeso a fersiwn o’r canllaw Wrecsam Go Iawn poblogaidd ar gyfer ymwelwyr i’w lawrlwytho.
Dyma’r prif safle marchnata ar gyfer cyrchfannau Wrecsam a’r Gororau sy’n cynnwys gwybodaeth am yr ardal a chyfle i wneud cais am bamffledyn sy’n cynnwys rhestr o letyau.