Mae digonedd o fusnesau ymwelwyr sy’n helpu gwneud Wrecsam yn lle mor wych i fyw ac ymweld.
Mae’r fforwm yn agored i holl sefydliadau a busnesau cysylltiedig â thwristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae ymuno’n rhad ac am ddim, bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ac mae’n gyfle gwych i rwydweithio a meithrin cysylltiadau gwaith gyda Chyngor Wrecsam a’i dîm datblygu economaidd.
Arolwg ymchwil sylweddol yw STEAM sy’n cadw golwg ar faint a gwerth twristiaeth. Os ydych, fel busnes ymwelwyr, yn cymryd rhan trwy gyflwyno nifer ymwelwyr misol, neu ffigurau llenwi misol, byddwch yn derbyn ystadegau ddwywaith y flwyddyn yn dangos sut mae eich busnes yn gwneud mewn cymhariaeth â chyfartaledd Wrecsam a Gogledd Cymru.
Mae cymryd rhan yn STEAM yn helpu Wrecsam greu darlun o sut ydym yn gwneud fel sir mewn cymhariaeth â’n cymdogion yn y Gogledd. Mae’n helpu i ni weld tueddiadau a phatrymau yn y diwydiant ac yn helpu i ni hybu pwysigrwydd y sector twristiaeth i lywodraeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.
I gymryd rhan yn STEAM neu gael gwybod mwy, cysylltwch â tourism@wrexham.gov.uk.Mae cynlluniau gam yn nes at gael eu gwireddu i helpu busnesau Wrecsam fanteisio ar gyfleoedd a grëwyd gan Safle Treftadaeth y Byd.
Gyda chymorth swyddogion yng Nghyngor Wrecsam, mae Fforwm Twristiaeth Wrecsam wedi gwneud cais am gyllid Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) i helpu cyflawni ‘prosiect ambarél’ strategol a luniwyd i roi hwb i fusnesau ymwelwyr lleol yng nghefn gwlad Wrecsam a chyfoethogi profiad ymwelwyr o Bont Ddŵr Pontcysyllte a’r Gamlas.
Aeth y prosiect trwy’r ‘cam mynegi diddordeb’ a gwahoddwyd y fforwm erbyn hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud cais llawn am fwy na £500,000 o gyllid RDP.
Os yw’n llwyddiant, bydd y cynllun yn dechrau yng ngwanwyn 2011. Byddai’r prosiect yn cael ei rannu’n bedwar gwahanol llinyn:
Bydd diweddariadau pellach ar sut mae’r cais am gymorth ariannol yn symud ymlaen yn cael eu darparu trwy gyfarfodydd Fforwm Twristiaeth Wrecsam yn y dyfodol ac e-daflenni newyddion.
I gael rhagor o wybodaeth yn y cyfamser, e-bostiwch tourism@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 292489.
Mae Wrecsam yn lle sy’n ffynnu, ac yn bendant yn werth ystyried symud busnes neu leoli menter fusnes newydd yno.
Cysylltwch â'n Tîm Cefnogi Busnes yn business@wrexham.gov.uk.