Rydym yn hoffi meddwl bod ein Canolfan Groeso yn Stryt y Lampint yn gwybod popeth.
Eisiau gwybod ble i gael hyd i'r clybiau nos poethaf? Pa noswaith fydd Côr y Fron yn ymarfer? Neu efallai ddim ond ble mae'r toiled cyhoeddus agosaf? Dim ond gofyn. Mae ein staff wedi hen arfer. Ac maent yn gyfeillgar dros ben, hefyd.
Mor gyfeillgar eu bod eisiau i chi fwynhau'ch ymweliad gymaint ag y bo modd. Ac, oherwydd bod llawer gormod o bethau i'w gwneud mewn diwrnod, gall hynny gynnwys cael hyd i'r lle gorau i aros dros nos. Neu am yr wythnos, os daw i hynny.
Soniwch wrthynt os ydych eisiau cael gwybod am ddigwyddiadau, cynigion arbennig a gwybodaeth arall i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn – byddant yn eich ychwanegu at y restr e-bost.
Ac os byddwch, a'n gwaredo, eisiau mentro allan o Wrecsam, gallant archebu gwely ymlaen llaw i chi yn unrhyw ran o'r DU. Rydym yn cyd-dynnu'n dda â'n cymdogion drws nesaf. A rhaid i ni gyfaddef bod Eryri, Caer ac arfordir y Gogledd i gyd yn werth eu gweld – ar ôl i chi ymweld â Wrecsam, wrth gwrs.
Mae Canolfan Groeso Wrecsam ar agor trwy'r flwyddyn.
Llun - Gwe. 10.00a.m. - 5.00 p.m.
Sad. 9.00a.m. - 4.00 p.m.
Canolfan Groeso Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
Ffôn: 01978 292015
Ffacs: 01978 292467
Ebost: tic@wrexham.gov.uk
Facebook: www.facebook.com/wrexhamtic