Tocynnau Teithio Mantais
Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol ac yn:
- 60 mlwydd oed neu’n hyn, neu’n
- Derbyn Lwfans Byw i’r Anabl (gyda chynnwys symudoledd cyfradd UWCH) neu’n
- Derbyn ychwanegiad symudoledd pensiynwr rhyfel, neu
- Wedi’ch cofrestru’n ddall, yn rhannol ddall neu’n hollol fyddar neu
- Heb freichiau neu’n methu defnyddio eich dwy fraich, neu
- Heb lefaredd, neu
- Wedi’ch cofrestru fel unigolyn ag anabledd dysgu, neu
- Methu gyrru car modur oherwydd cyflwr meddygol sydd heb ei achosi gan gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn barhaus
Bydd gennych hawl i gael tocyn, a fydd yn eich galluogi i deithio am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol. Bydd eich tocyn teithio am ddim yn ddilys o’r dyddiad y cafodd ei roi i chi drwy’r dydd, bob dydd, nid yn unig yn Wrecsam, ond i deithio ledled Cymru.
Ble a phryd allaf ddefnyddio fy nhocyn?
Bydd eich tocyn mantais yn ddilys ar gyfer teithiau dros y ffin i Loegr cyn belled â bo’ch taith yn ddi-dor ac yn dechrau ac yn gorffen yng Nghymru.
Os ydych yn methu â theithio’n annibynnol ac angen cymorth i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, efallai y gellir rhoi tocyn ychwanegol ar gyfer cydymaith angenrheidiol. Fel arfer bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth feddygol annibynnol i gefnogi hyn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi partneru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno teithio am ddim ar y darn Cymreig o lein y Gororau, rhwng Wrecsam Ganolog, Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, Gwersyllt a phob gorsaf i Bont Penarlâg.
Bydd y prawf gynllun, a ddechreuodd ar 18fed Mai 2008, yn gweithredu am 12 mis i ddechrau. Caiff y rhai sydd â thocynnau mantais (bysys) yn Wrecsam a Sir y Fflint deithio am ddim ar y rhan hwn o’r daith. Os bydd rhywun am deithio i’r gogledd o Shotton yna bydd raid iddynt dalu gweddill y pris.
A oes raid i mi dalu am y tocyn?
Caiff eich tocyn teithio ei roi I chi’n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae cost am amnewid unrhyw docynnau a gollir neu a ddifrodir.
Sut wyf yn defnyddio fy nhocyn?
Mae defnyddio eich tocyn i deithio yn dibynnu ar reolau a rheoliadau'r gweithredwyr sy’n cynnig y gwasanaeth. Bydd angen i chi ddangos eich tocyn i’r gyrrwr wrth fynd ar y bws er mwyn cael mantais. Rhaid ei ddangos i arolygwyr yn ôl y gofyn. Os methwch â dangos eich tocyn, caiff y fantais ei gwrthod a chaiff pris y daith ei chodi arnoch. Nid yw’r tocyn yn rhoi unrhyw hawliau gwahanol i chi â’r rhai a roddir i unrhyw deithiwr sy’n talu’r pris llawn am docynnau.
Mae eich tocyn yn parhau’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac fe allai gael ei dynnu’n ôl gan y Cyngor neu’r gweithredwr os caiff ei gamddefnyddio.
Sut wyf yn cael fy nhocyn?
Gallwch ymgeisio'n bersonol yn swyddfa ymholiadau Llinell Fysiau yng Ngorsaf
Bysiau Stryt y Brenin. Bydd angen i chi fynd â'r canlynol gyda
chi.
- Ffurflen gais wedi’i chwblhau (gweler drosodd)
- Ffotograff diweddar maint pasport
- Dogfen i brofi eich cartref swyddogol
- Dogfen i brofi eich hawl, megis llyfr pensiwn
- 60 mlwydd oed neu’n hyn, neu’n
- Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl, bydd angen i chi ddangos llythyr dyfarniad hawl dilys
- Os ydych wedi’ch cofrestru’n ddall, yn rhannol ddall neu’n hollol fyddar, bydd angen i chi gael dogfen I brofi hyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Os oes gennych Anabledd Dysgu, bydd angen i chi gyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Tîm Iechyd Anabledd Dysgu Cymunedol neu’r Adran Addysg.
- Os ydych heb lefaredd neu’n methu defnyddio eich dwy fraich, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol i gefnogi’ch cais.
- Os ydych yn methu â gyrru oherwydd cyflwr meddygol, bydd angen i chi ddarparu llythyr gwirio gan y DVLA neu’ch meddyg.
Gellwch wneud cais trwy’r post trwy anfon eich ffurflenni cais a chopïau o’ch dogfennau i brofi eich hawl at:
Tocyn Teithio Mantais
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Cydlynu Cludiant,
Adeiladau'r Goron,
Wrecsam
LL13 8BG
Cynllun Tocyn Mantais
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Tocyn Mantais - Gwybodaeth - fersiwn PDF 83Kb 
Cynllun Tocyn Mantais - Ffurflen Gais - fersiwn PDF 59Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
Peidiwch ag anfon llyfrau pensiwn, llyfrau archebu na phasportau gyda
chais post. Bydd raid i chi gael llungopïau.
|