Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth a fydd o gymorth i bobl anabl sydd yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac i’w thrigolion i ddod o hyd i leoedd parcio i’r anabl yn y Fwrdeistref.
Mae’r Cynllun Bathodyn Glas (y Cynllun Bathodyn Oren gynt) yn drefniant cenedlaethol i alluogi pobl sydd ag anawsterau cerdded, sydd naill ai yn teithio fel gyrwyr neu deithwyr, i gael consesiynau parcio.
Mae’r cynllun hefyd yn berthnasol i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall a phobl sydd ag anableddau braich uchaf difrifol sydd yn gyrru cerbyd yn rheolaidd ond yn methu â throi’r llyw â llaw.
Mae’r cynllun yn galluogi deiliaid bathodyn i barcio’n agosach i’w cyrchfan, fodd bynnag dim ond i barcio ar-stryd y mae’r consesiynau yn berthnasol.
I gael copi o daflen y cynllun bathodyn glas cysylltwch â Llywodraeth Cynulliad Cymru (cyswllt allanol) neu eich adran leol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i Drigolion y Fwrdiestref sydd ag anableddau.
Gallwch gael Bathodyn Glas os:
OES. Mae tâl gweinyddu o £2 i dalu cost prosesu eich cais. Nid yw’n dâl am y bathodyn ei hun ac ni fyddwn yn ei ad-dalu os na fydd eich cais yn llwyddiannus. Rhaid talu’r tâl gweinyddu ar gyfer pob cais.
Medrwch wneud cais am Fathodyn Glas naill ai trwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein, neu trwy gysylltu â’r Adran Gofal Cymdeithasol, a fydd yn afon ffurflen gais atoch trwy'r post.
Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi o'r ffurflen gais - ffoniwch: 01978 292066 neu anfonwch ebost at: socialservices@wrexham.gov.uk.Os hoffech wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein, bydd eich gwybodaeth yn cael ei derbyn a'i phrosesu gan Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi anfon dau ffotograff diweddar, math pasbort, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd ar y cefn.
Peidiwch ag anfon ffotograffau tan y gofynnir ic hi wneud hynny.
Byddwn yn gofyn i chi ymweld â swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasol i nôl eich Bathodyn Glas a chyflwyno'r ddau ffotograff, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y bydd eu hangen fel rhan o'r broses.
Dylech gwblhau'r ffurflen a'i hanfon at swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasol, ynghyd â dau ffotograff diweddar, maint llun pasport, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd ar y cefn.
Peidiwch ag anfon ffotograffau tan y gofynnir ic hi wneud hynny.
Mae'r broses yn cymryd tua chwe wythnos fel rheol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar y cais a wnewch am Fathodyn Glas, a beth sy'n digwydd nesaf.
Gwneud cais ar lein am Fathodyn Glas
Gwneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio ffurflen gais safonol
Cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol
Canllaw Parcio yng Nghanol y Dref i Bobl Anabl - fformat PDF 697Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Adran Gofal Cymdeithasol
Llawr Cyntaf
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
Ffôn: 01978 292066
Ebost: socialservices@wrexham.gov.uk