|
A oes gan Gyngor Wrecsam gyfleusterau parcio oddi ar y stryd i'r anabl?
Oes. Mae'r Cyngor yn darparu cilfachau parcio dynodedig i'r anabl yn y rhan fwyaf o'i feysydd parcio. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Map Canol Tref Wrecsam neu Map Meysydd Parcio Cefn Gwlad.
A yw plant yn gymwys i gael bathodyn i'r anabl?
Ydynt. Mae plant anabl sydd dros 2 oed yn gymwys i gael bathodyn i’r anabl. Rhaid i oedolyn lenwi a llofnodi’r ffurflen gais a bydd angen ffurflen D4 ar gyfer enwebu gyrrwr (gyrwyr).
Gweler hefyd: Cynllun Bathodyn Glas
A gaf i barcio mewn cilfach barcio a waharddwyd?
Na. Gallech gael Rhybudd Talu Cosb petaech yn parcio mewn cilfach a waharddwyd ac efallai bydd yn rhaid i’ch cerbyd gael ei symud i le parcio cyfagos os yw’n peri rhwystr.
A ellir clampio neu ffaldio cerbyd sydd yn arddangos bathodyn i'r anabl?
Na. Ni ellir clampio na ffaldio cerbyd sydd yn arddangos bathodyn dilys i’r anabl. Fodd bynnag, os yw’r cerbyd yn creu rhwystr gellir ei symud i’r lle parcio priodol agosaf.
|