Goddefeb - Amodau Defnyddio

  1. Rhaid gosod y gollyngiad hwn ar ffenestr flaen y cerbyd y mae ’n berthnasol iddo. Gwnewch yn siŵr y gellir gweld holl fanylion y drwydded gollyngiad o’r tu allan.

  2. Mae’r gollyngiad yn ddilys yn unig ar gyfer defnydd yn ystod yr amseroedd ac ar y dyddiadau a ddangosir ar y drwydded gollyngiad.

  3. Gellir parcio’r cerbyd ar linell felen sengl neu ddwbl ar y stryd a ddangosir ar y gollyngiad ac nid yw’n ddilys mewn mannau gyda gwaharddiad llwytho.

  4. Rhaid ail-leoli’r cerbyd os gofynnir gan Swyddog Sifil Gorfodol neu Swyddog Dyletswydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Swyddog Heddlu Gogledd Cymru neu Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu - hyd yn oed os oes gennych drwydded gollyngiad. Bydd hyn ond yn digwydd mewn amgylchiadau lle mae mynediad brys neu lif traffig yn rhwystredig.

  5. Nid yw’r drwydded gollyngiad yn drosglwyddadwy.

  6. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i archwilio’r cerbyd gan Swyddog Awdurdodedig neu Asiant Awdurdodedig o’r Cyngor, ar bob amser rhesymol at bwrpasau gwirio’r gwaith a/neu ddilysrwydd y gollyngiad.

yn ôl i'r brig