Ar 1 Mawrth 2008 cyflwynwyd newid mawr i’r ffordd y mae rheoliadau parcio’r Cyngor Bwrdeistref yn cael eu gorfodi. Ers y dyddiad hwnnw, mae swyddogion sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor wedi patrolio’r strydoedd a meysydd parcio’r Cyngor.
Nid codi refeniw sydd wrth wraidd y trefniant gorfodaeth parcio hwn. Mae nifer o resymau pam y cafodd ei gyflwyno, ac maent i gyd er budd i’r bobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi.
Mae dros ? o awdurdodau lleol ar draws y wlad yn rheoli gorfodaeth parcio yn eu hardaloedd, ac wedi gweld y manteision o wneud hynny; bydd llawer o awdurdodau lleol eraill yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn yn y dyfodol.
Rydym yn gweithio yn awr o dan y teitl ‘Gorfodaeth Parcio Sifil’. Peidiodd gorfodaeth parcio gan y Cyngor â bod yn dramgwydd troseddol a daeth yn dramgwydd sifil.
I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn cysylltwch ag adran meysydd parcio’r Cyngor ar 01978 292042 neu anfonwch e-bost i parking@wrexham.gov.uk.