Arweiniad I Barcio Ar Y Stryd

Mae’r rhan hon yn rhoi gwybodaeth am sut i barcio’n gall a diogel ar y stryd.  Os ydych yn parcio’n gywir ni fyddwch yn cael Rhybudd Talu Cosb, fodd bynnag, petaech yn parcio mewn man na ddylech, neu ddim yn talu am yr amser yr ydych wedi parcio, gallech gael tocyn parcio.

Parcio Gyda Bathodyn Glas

Eich cyfrifoldeb chi yw parcio eich cerbyd yn gywir.  Cofiwch, ni ddylech barcio yn y mannau canlynol:

  • Mewn mannau lle mae cyfyngiadau aros a llwytho mewn grym ar y pryd;
  • Mewn cilfach neilltuedig (e.e. i ddeiliaid bathodyn glas) heb arddangos hawlen ddilys;
  • Mewn arhosfan bysiau neu lôn fysiau yn ystod amseroedd gwaharddedig;
  • Ar linellau igam-ogam gorfodol y tu allan i ysgol neu wrth groesfan i gerddwyr – nid yw casglu na gollwng plant yn esgus digonol, mae eich cerbyd yn achosi perygl difrifol i ddiogelwch;
  • Ar y palmant neu leiniau glas y tu ôl i’r cyfyngiadau aros sydd mewn grym ar y pryd;
  • Mewn lle talu ac arddangos heb dalu am y cyfan o’r amser yr ydych yno;
  • Am gyfnod hwy na’r cyfyngiadau aros, neu ddychwelyd i’r lle o fewn y cyfyngiad amser a nodir;

Os nad ydych yn sicr, edrychwch ar y wybodaeth ar yr arwydd sydd yn berthnasol i’r fan lle rydych yn bwriadu parcio.

Dim aros o gwbl

Nid oes angen arwyddion bellach ger llinellau dwbl melyn a chânt eu symud oddi yno yn raddol.

Dim aros yn ystod yr amseroedd ar yr arwydd

Lle mae llinellau melyn dwbl neu unigol cewch aros i deithwyr ddod i mewn neu allan o'r cerbyd a chewch lwytho cyn belled â'ch bod ddim yn peri rhwystr.

Aros cyfyngedig

Dim llwytho yn ystod yr amseroedd ar yr arwydd

Dim llwytho ar unrhyw adeg

Ffordd glir i fysiau aros

Dim aros yn ystod yr amseroedd a ddangosir ar yr arwydd.

Cilfach lwytho

Dim parcio i gerbydau os nad yn llwytho neu ddadlwytho.

yn ôl i'r brig