Mae Swyddog Gorfodaeth Sifil (SGS) yn cyflwyno Rhybudd Tâl Cosb (RhTC) drwy ei osod ar y cerbyd neu ei roi i’r gyrrwr. Mae’n manylu am y drosedd parcio mewn geiriau a hefyd mae cod dau ddigid arno. Gweler restr lawn o bob trosedd.
| Cod |
Tâl |
Disgrifiad Cyfreithiol |
Gwybodaeth |
| 01 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau a ragnodwyd |
Wedi parcio ar linell felen (sengl/dwbl) neu mewn parth cerddwyr |
| 02 |
£70.00 |
Wedi parcio neu lwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig pan oedd cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym |
Wedi parcio lle mae llinellau melyn a marciau melyn ar y cwrbyn |
| 12 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn man parcio ar gyfer preswylwyr neu ar gyfer defnydd i’w rannu heb arddangos tocyn neu daleb dilys yn eglur ar gyfer y man hwnnw |
Wedi parcio mewn parth preswylwyr |
| 20 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn bwlch llwytho wedi’i farcio â llinell felen |
Llinell felen rhwng dau fan parcio |
| 21 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn cilfach/man a eithriwyd neu ran o gilfach/man |
Pan/ble fydd lle parcio wedi’i eithrio bydd arwydd yn dangos hynny |
| 23 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn man parcio neu ardal sydd heb ei dynodi ar gyfer y math hwnnw o gerbyd |
Dim ond cerbydau penodol gaiff barcio mewn rhai mannau – fel y dynodir ar arwydd cyfagos i’r man parcio |
| 25 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho |
Mae mannau llwytho ar gyfer llwytho a dadlwytho yn unig |
| 26 |
£70.00 |
Wedi parcio mwy na 50cm o ymyl y ffordd ac nid o fewn man parcio dynodedig |
Mae ‘parcio dwbl’ yn berthnasol hyd yn oed os nad oes unrhyw gerbydau eraill, gall hefyd fod yn berthnasol os yw cerbyd wedi’i barcio ar ongl/pen i mewn ac un set o olwynion fwy na 50cm o ymyl y briffordd |
| 27 |
£70.00 |
Wedi parcio ger troedffordd a leddfwyd |
Blocio cerbyn a leddfwyd ar gyfer cerbydau neu gerddwyr yn rhannol neu yn llwyr |
| 40 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn man parcio a ddynodwyd ar gyfer unigolyn anabl heb arddangos bathodyn unigolyn anabl dilys yn amlwg |
Cilfachau yn benodol ar gyfer cerbydau â bathodyn anabledd yn unig |
| 45 |
£70.00 |
Wedi parcio ar safle tacsi |
Cilfachau a ddefnyddir yn benodol ar gyfer tacsis. Ni chaiff cerbydau eraill barcio, hyd yn oed i godi rhywun |
| 46 |
£70.00 |
Wedi aros mewn lle gwaharddedig (ar glirffordd) |
Mae clirffordd yn gyfyngiad heb farciau dim ond arwyddion |
| 47 |
£70.00 |
Wedi aros ar safle bws cyfyngedig |
Dim ond gollwng neu godi teithwyr all bysiau/cerbydau eraill ei wneud, ni chânt aros |
| 48 |
£70.00 |
Wedi aros mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol |
Marciau igam ogam melyn y tu allan neu’n gyfagos i fynedfa ysgol |
| 49 |
£70.00 |
Wedi parcio’n llwyr neu’n rhannol ar lwybr/lôn beicio |
|
| 55 |
£70.00 |
Cerbyd masnachol wedi parcio ar stryd gyfyngedig yn groes i waharddiad ar aros dros nos |
|
| 61 |
£70.00 |
Cerbyd masnachol trwm wedi parcio’n llwyr neu’n rhannol ar droedffordd, gwar neu dir rhwng dwy briffordd |
Ni ddylai unrhyw ran o gerbyd masnachol trwm fod ar droedffordd ac ati |
| 62 |
£70.00 |
Wedi parcio gydag un olwyn neu fwy ar unrhyw ran o ffordd drefol heblaw am ffordd gerbydau (parcio ar droedffordd) |
Ni ddylai unrhyw ran o gerbyd fod ar y droedffordd (oni bai bod arwyddion/marciau yn nodi fel arall) |
| 81 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio |
Heb barcio mewn cilfach wedi’i marcio |
| 85 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn cilfach lle mae hawl parcio ond heb arddangos hawl dilys |
Wedi parcio mewn cilfach lle mae hawl parcio mewn maes parcio ond heb arddangos hawl dilys ar gyfer y lleoliad/cerbyd |
| 87 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn man parcio i’r anabl heb arddangos bathodyn unigolyn anabl dilys yn amlwg |
Cilfachau penodol ar gyfer pobl â bathodynnau anabl yn unig mewn maes parcio |
| 91 |
£70.00 |
Wedi parcio mewn maes parcio neu ardal heb eu dynodi ar gyfer y math hwnnw o gerbyd |
Er enghraifft: Parcio mewn ardal a ddynodwyd ar gyfer bysiau’n unig |
| 99 |
£70.00 |
Wedi aros ar groesfan cerddwyr neu/a man croesi wedi’i marcio â llinellau igam ogam |
Croesfan cerddwyr wedi’i farcio â marciau igam ogam gwyn |
| Cod |
Tâl |
Disgrifiad Cyfreithiol |
Gwybodaeth |
| 05 |
£50.00 |
Wedi parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben |
Ni ddylai cerbydau fod wedi’u parcio ar ôl i’r tocyn talu ac arddangos/taleb ddod i ben |
| 06 |
£50.00 |
Wedi parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys na thaleb yn amlwg |
Rhaid arddangos tocyn talu ac arddangos/taleb yn amlwg |
| 07 |
£50.00 |
Wedi parcio ar ôl talu i ymestyn yr arhosiad dros yr amser gwreiddiol |
Ni ellir prynu amser ychwanegol i ymestyn y tocyn parcio ac arddangos a brynwyd eisoes na thalebau a arddangoswyd eisoes |
| 09 |
£50.00 |
Wedi parcio gan arddangos sawl tocyn talu ac arddangos mewn man lle mae parcio wedi’i wahardd |
Mwy nag un tocyn talu ac arddangos yn cael ei ddangos |
| 19 |
£50.00 |
Wedi parcio mewn man parcio preswylydd neu fan parcio a rennir gan arddangos caniatâd anabledd neu daleb annilys |
Caniatâd wedi dyddio neu’n annilys ar gyfer y parth hwnnw |
| 22 |
£50.00 |
Wedi parcio yn yr un man parcio o fewn 2 awr i adael (neu amser penodedig arall) |
Dim hawl dychwelyd i’r un man parcio o fewn cyfnod penodedig (gweler arwyddion) |
| 24 |
£50.00 |
Heb barcio’n gywir y tu mewn i farciau’r gilfach neu’r man |
Rhaid i’r olwynion i gyd fod o fewn y man parcio |
| 30 |
£50.00 |
Wedi parcio am amser hwy nag oedd hawl |
‘Mannau Aros Cyfyngedig’ – dynodir hyd yr amser aros gan yr arwyddion |
| 82 |
£50.00 |
Wedi parcio ar ôl diwedd yr amser y talwyd amdano |
Mewn maes parcio rhaid symud y cerbyd cyn i’r amser ar y tocyn talu ac arddangos ddod i ben |
| 83 |
£50.00 |
Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos yn amlwg |
Rhaid arddangos tocyn talu ac arddangos yn amlwg |
| 86 |
£50.00 |
Wedi parcio tu hwnt i farciau’r man parcio |
Rhaid i’r olwynion i gyd fod o fewn marciau’r lle parcio |