Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Hanes Deddfwriaeth Parcio

 

Mae’r pŵer i orfodi rheoliadau parcio’n deillio o ddeddfau Seneddol.

Galluogodd Deddf Rheoliadau Traffig y Ffyrdd 1984 Gynghorau i orfodi rhai deddfwriaethau parcio am y tro cyntaf. Arhosodd nifer sylweddol o droseddau parcio, yn bennaf y rhai hynny’n ymwneud â pharcio (llinellau melyn) cyfyngedig yng nghyfrifoldeb yr heddlu a gwasanaeth warden traffig yr heddlu.

Daeth Deddf Traffig y Ffyrdd 1991 â nifer o newidiadau allweddol yn y trefniadau uchod. “Dad-droseddwyd” “troseddau” parcio a orfodwyd gan Gynghorau ac fe’u gosodwyd yn y system gorfodaeth sifil. Ar yr un pryd tynnwyd nifer o gyfrifoldebau gorfodaeth ychwanegol, fel parcio cyfyngedig (llinell felen), oddi wrth yr heddlu a’u rhoi i’r Cyngor hefyd.

Gweithredwyd darpariaethau Deddf Traffig y Ffyrdd 1991 yn gyntaf gan y 33 o Fwrdeistrefi Llundain yn ystod 1993/94. Ers diwedd y 1990au mae nifer cynyddol o Gynghorau oddi allan i Lundain wedi mabwysiadu pwerau gorfodaeth dad-droseddu.  Mae’r Gwasanaeth Dyfarniad Parcio Cenedlaethol yn darparu gwasanaeth apêl annibynnol i’r cynghorau hyn yng Nghymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain) sy’n ofynnol dan Ddeddf Traffig y Ffordd 1991.

Cyn y gall unrhyw Gyngor fabwysiadu pwerau gorfodaeth dad-droseddu rhaid iddo’n gyntaf baratoi cynnig manwl a gyflwynir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gludiant (yn Lloegr) neu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dim ond pan fo hwn wedi cael ei gymeradwyo a bod cynllun y Cyngor yn cael ei dybio i fod yn ddilys, y rhoddir caniatâd i baratoi a chyflwyno cyfundrefn orfodaeth barcio wedi’i ddad-droseddu.

Caniateir pwerau cyfreithiol i weithredu’r cynllun yn ffurfiol drwy gyflawniad yr hyn a elwir yn Orchymyn mewn Senedd, drwy’r broses Offeryn Statudol. Rhaid i bob Cyngor sy’n gweithredu parcio wedi’i ddad-droseddu feddu ar y fath Orchymyn, a enwir Gorchymyn Ardal Parcio Arbennig (Gorchymyn APA), cyn y gallant ddechrau gorfodaeth.

Ynghyd â’r Deddfwriaethau Seneddol y cyfeirir atynt uchod, bydd y Rheoliadau Traffig y Ffyrdd (Beirniaid Parcio) (Cymru a Lloegr)1999 (S.I. 1999 Rhif. 1918) (cyswllt allanol) yn llywodraethu rheolaeth ac ymddygiad apeliadau parcio yng Nghymru a Lloegr (oddi allan i Lundain).

Mae’r Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (DRhT) yn disodli Deddf Traffig y Ffyrdd 1991 (DTFf) fel y rhan sylfaenol o ddeddfwriaeth gynradd dros barcio yng Nghymru a Lloegr. 

Mae’r DdRhT yn hyrwyddo cysondeb mewn rheoliadau parcio, prosesau a gorfodaeth oddi mewn ac oddi allan i Lundain. Mae’n ymdrechu at daro cydbwysedd rhwng system sy’n deg i’r modurwr, ond yn parhau’n effeithiol wrth orfodi rheoliadau parcio.

Gellir gweld nifer o eitemau deddfwriaethol, yn arbennig rhai diweddar, ar wefan Llyfrfa ei Mawrhydi. Dylai copïau fod ar gael hefyd mewn prif lyfrgelloedd cyfeirio a siopau ‘HMSO’ wrth gwrs.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwasanaethau Parcio
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC)
Siarter Barcio y Cyngor
Taflen Gwasanaethau Parcio
   

Cysylltiadau Allanol Bellach

Adran Drafnidiaeth
Tribiwnlys Cosb Traffig (TCT)
PATROL
Côd Priffordd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint