Llwytho/Dadlwytho Ar Stryd

Mae'r rhan hon yn rhoi gwybodaeth am y cyfyngiadau llwytho y gallech eu gweld ar y ffyrdd.

Mae marciau melyn ar gyrbau neu ar ymyl ffyrdd yn dangos bod llwytho neu ddadlwytho yn cael eu gwahardd yn ystod yr amseroedd a ddangosir ar yr arwyddion du a gwyn sydd gerllaw.  Os nad oes unrhyw ddyddiau yn cael eu henwi ar yr arwyddion mae'r gwaharddiadau mewn grym bob dydd, gan gynnwys dyddiau Sul a Gwyliau Banc. Dylech bob amser ddarllen yr amseroedd a nodir ar yr arwydd.

  

Dangosir y darnau o ffyrdd sydd wedi'u neilltuo i gerbydau lwytho neu ddadlwytho gan 'gilfach' wen gyda'r geiriau 'llwytho yn unig' ac arwydd gyda symbol troli 'wen ar las'. Bydd yr arwydd hwn hefyd yn nodi ai dim ond cerbydau nwyddau all ddefnyddio'r gilfach a'r amseroedd y gellir ei ddefnyddio.  Os nad oes unrhyw ddiwrnodau nac amseroedd wedi'u nodi, gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg.

Peidiwch â pharcio mewn cilfach lwytho/ddadlwytho os nad ydych yn llwytho/ dadlwytho ar y pryd, neu fe allech gael Rhybudd Talu Cosb.

Cysylltiadau Perthnasol

Gwaharddiadau a Goddefebau

Arweiniad i Barcio Ar Y Stryd

yn ôl i'r brig