Mae lleoedd parcio pwrpasol i feiciau modur ar gael yn un neu ddau o’r meysydd parcio sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yng nghanol y dref:
San Silyn, Byd Dŵr a Stryt y Farchnad
- Lleoedd parcio am ddim i feiciau modur yn y rhan bwrpasol o’r maes parcio
- Rydych chi’n gorfod prynu tocyn talu ac arddangos os ydych chi’n dewis parcio mewn lle parcio sydd wedi’i farcio
- Mar pob un o amodau eraill y maes parcio yn berthnasol i feiciau modur (fel y nodir ar y byrddau prisiau)

Byd Dŵr
San Silyn
Stryt y Farchnad
Cilgant San Siôr (De)
- Lleoedd parcio am ddim heb derfyn amser i feiciau modur, yn y lle parcio pwrpasol
- Os ydych chi’n dewis parcio mewn lle parcio sydd wedi’i farcio, yna cewch wneud hynny am un awr yn unig
- Mae pob un o amodau eraill y lle parcio yn berthnasol i feiciau modur (fel y nodir ar yr hysbysfyrddau)

Cilgant San Siôr (De)
Os ydych yn dewis parcio mewn maes parcio ac nad oes lleoedd arbennig ar gyfer beiciau modur, bydd gofyn i chi barcio mewn lle parcio sydd wedi ei farcio a phrynu tocyn talu ac arddangos.
yn ôl i'r brig