| |
|
|
|
|
 |
Siarter Barcio y Cyngor |
|
|
|
|
| |
|
Mae’r rhan hon yn amlinellu’r ymrwymiad y mae Cyngor Wrecsam yn ei wneud ar gyfer darparu gwasanaeth parcio o ansawdd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod ei ddulliau gorfodi yn deg ac yn gyson ac o’r safon uchaf o ran eu gweithredu. Er mwyn gwneud hynny mae’r Cyngor wedi datblygu’r Siarter Barcio a ganlyn:
Ansawdd
- Swyddog Gorfodaeth Sifil i roi Rhybuddion Talu Cosb o ansawdd yn y lle cyntaf.
- Ymateb yn gyflym i heriau Rhybuddion Talu Cosb tra’n ystyried yr holl sylwadau a godwyd gan yr apeliwr.
- Cyflwyno systemau a gweithdrefnau gwell er mwyn gwneud rhyngweithio â gwasanaeth parcio’r Cyngor yn haws i bob defnyddiwr.
- Ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd yn gwrtais ac mewn dull proffesiynol bob amser.
Cadarn
- Ymdrin â phob Rhybudd Talu Cosb i sicrhau bod yr holl ddyledion sydd yn ddyledus i’r Cyngor yn cael eu casglu.
- Rhoi cefnogaeth ac amddiffyniad go iawn i Swyddog Gorfodaeth Sifil y Cyngor yn erbyn unrhyw gamdriniaeth a thrais.
Teg
- Ymdrin â phob Rhybudd Talu Cosb yn unigol ac yn ôl ei haeddiant neilltuol.
- Monitro ac amnewid unrhyw arwyddion neu linellau anghywir ar ffyrdd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn glir ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr y ffordd.
- Sicrhau bod camau gorfodi cyson yn cael eu gweithredu trwy gydol yr amser ym mhob lleoliad.
|
|
|
|
|
|
|