Mae’r adran hon yn eich galluogi i dalu RhTC Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar-lein, ac yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd eraill i dalu.
Bydd manylion sut i dalu'r RhTC ar gefn y RhTC. Os cawsoch RhTC mae gennych fis i dalu'r gosb fel y nodir ar y RhTC. Os telwch o fewn 14 diwrnod bydd y taliad yn lleihau o 50%. Os na fyddwch yn talu, a ninnau'n gorfod trefnu i gasglu'r arian gennych, yna bydd yn cynyddu 50% ac efallai fwy na hynny.
Mae nifer o ffyrdd i dalu eich RhTC:
Gallwch dalu ar-lein drwy ddefnyddio ein Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru (PPCC) gwasanaeth diogel i dalu ar-lein (gwefan allanol). Yma gallwch dalu â cherdyn credyd/debyd (ni dderbynnir American Express).
Ffoniwch 0845 605 6556 i dalu â cherdyn credyd/debyd. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 8.45am i 5.15pm, Dydd Llun i Dydd Iau a 8.45am - 4.45pm Dydd Gwener or you can pay by the 24 hour automated payment line on 0845 603 2677.
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd / credyd neu arian parod trwy ymweld รข Galw Wrecsam yn 16 Stryt yr Arglwydd. (Ein horiau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am i 5.30pm). Gallwch wneud taliadau hefyd yn eich swyddfa stad leol. Gwnewch yn sir fod eich RhTC gyda chi pan fyddwch yn talu’n bersonol.
Gellir talu gyda sieciau wedi eu croesi neu archeb bost yn daladwy i: PPCC. Ysgrifennwch rif y rhybudd a’ch cyfeiriad ar gefn y siec / archeb bost a chwblhau ac amgáu’r bonyn talu.
Ni ddylid anfon arian parod yn y post.
Cofiwch ganiatáu amser ar gyfer postio i sicrhau eich bod yn cael mantais o’r raddfa disgownt 14 diwrnod o 50%.
Os na wneir taliad o fewn 28 diwrnod, gall y ceidwad cofrestredig neu’r unigolyn sy’n berchen ar y cerbyd ym marn y Cyngor Sir dderbyn Rhybudd i Berchennog yn gofyn am dâl. Bydd y rhybudd hwnnw’n disgrifio hefyd sut y gall y perchennog wneud sylwadau ffurfiol yn gwrthwynebu rhoi’r Rhybudd Tâl Cosb.