Rhybudd Talu Cosb (RhTC) o 1 Mawrth 2008

Mae’r Swyddog Gorfodaeth Sifil a gyflogir gan y Cyngor yn patrolio strydoedd a meysydd parcio canol tref y Cyngor ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Bydd y Swyddog Gorfodaeth Sifil yn rhoi Rhybudd Talu Cosb (RhTC) i yrwyr cerbydau sydd wedi parcio mewn modd sydd yn groes i unrhyw reoliadau sydd mewn grym ar y pryd.  Bydd hynny yn cynnwys torri rheolau parcio ar, ac oddi ar, y stryd.

Bydd yr Heddlu yn parhau i roi Hysbysiad Cosb Benodedig i yrwyr y mae eu cerbydau yn creu rhwystr ar strydoedd.  Bydd unrhyw gamweddau parcio, llwytho ac aros eraill yn rhan o gyfrifoldeb Swyddog Gorfodaeth Sifil y Cyngor.

Os ydych wedi cael Rhybudd Talu Cosb -  peidiwch â’i anwybyddu.

Colli Rhybudd Talu Cosb

Nid yw colli’ch Rhybudd Talu Cosb yn rheswm dros beidio â thalu.  Os ydych wedi colli’ch RhTC, ffoniwch y Gwasanaethau Parcio ar 01978 292042 am gyngor.

yn ôl i'r brig