Parcio Trigolion

Beth yw Parcio Trigolion?

Caiff cynlluniau parcio trigolion eu llunio i weld bod trigolion lleol yn cael blaenoriaeth ar fannau parcio ar y stryd, yn enwedig lle byddant yn cael anawsterau parcio ger eu cartrefi.

Bwriad cynlluniau yw rhwystro gyrwyr eraill fel cymudwyr a siopwyr rhag parcio ar strydoedd preswyl. Byddai angen i drigolion brynu a dangos cerdyn er mwyn iddynt allu parcio ar y stryd mewn parth parcio dynodedig.  Bydd arwyddion a marciau ffordd yn cael eu defnyddio i ddiffinio’r mynedfeydd i bob parth parcio trigolion ac i nodi’r mannau lle gall trigolion barcio.

Pam fod y Cyngor wedi ystyried Cynlluniau Parcio Trigolion?

Gyda pherchenogaeth ceir yn cynyddu mae’r Cyngor yn ceisio gwneud y defnydd gorau o weddill y lle sydd ar gael ar y ffordd er budd cyffredinol trigolion lleol.

Roedd amryw drigolion wedi cysylltu â’r Cyngor yn mynegi diddordeb mewn Cynlluniau Parcio Trigolion. Nododd arolygon parcio’r cylchoedd preswyl oedd dan bwysau parcio fel y lle mwyaf priodol i gynnig cynllun parcio trigolion. Fodd bynnag canlyniadau ymgynghoriad dechreuol gyda thrigolion a budd-ddeiliaid allweddol yn y cylchoedd preswyl hyn oedd bod llai na 30% wedi ymateb a llai na hanner yr ymatebion hynny oedd yn cefnogi’r cynllun.

Hysbyswyd y canlyniadau hyn i Fwrdd Gweithredol y Cyngor a phenderfynwyd NA ddylai cynllun parcio trigolion rhagbrofol symud ymlaen ar hyn o bryd oherwydd diffyg cefnogaeth gyhoeddus. 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Nid yw pwysau parcio ar y stryd wedi mynd i ffwrdd. Cynlluniau Parcio Trigolion yw un dull o reoli parcio a allai ddal i ffurfio rhan o Strategaeth Barcio ehangach Wrecsam, sydd hefyd yn cynnwys Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, mannau parcio oddi ar y stryd a meysydd parcio. Mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor wedi cymeradwyo polisi ar Gynlluniau Parcio i Drigolion, a fydd yn caniatáu cyflwyno cynlluniau o’r fath yn y dyfodol.

yn ôl i'r brig