Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig dau wasanaeth i gerbydau sydd angen parcio tu allan i adeiladau i gyflawni gwaith neu i ddosbarthu eitemau trwm.
Mae goddefeb llinell felen yn caniatáu pobl i barcio ar un llinell felen (neu mewn achosion neilltuol ar linellau melyn dwbl) os yw cerbyd yn gorfod cyflawni gwaith penodol, bod mor agos â phosibl i’r adeiladau a does dim lle parcio arall ar gael.
Yn gyffredinol ni chaniateir eu defnyddio mewn ardaloedd gyda gwaharddiad llwytho (a nodir fel rheol gyda marciau ar y cwrbyn).
Mae gan rai ffyrdd yng Nghanol Tref Wrecsam gyfyngiad ‘mynediad yn unig’ sy’n golygu y bydd rhaid ichi, o bosibl, gael caniatâd yr Heddlu i fynd ar hyd ffordd benodol, yn ogystal â chaniatâd y Cyngor.
Gallech fod yn gymwys i gael goddefeb os ydych yn dod o fewn un o’r tri categori a ganlyn:
Bydd angen i chi roi:
Mae tri ffordd i wneud cais am oddefeb llinell felen:
Ffoniwch 01978 292042 – 8.30am – 5.30pm, Llun - Gwener.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gwasanaethau Parcio
Pencadlys Adran yr Amgylchedd
Ffordd Dde yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
LL13 9PW
Cais am Drwydded Gollyngiad Rheoliad Parcio
Mae'r ffurflen gais ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Cais am Drwydded Gollyngiad Rheoliad Parcio - fformat Word 54Kb ![]()
Cais am Drwydded Gollyngiad Rheoliad Parcio - fformat PDF 61Kb ![]()
Cais am Drwydded Gollyngiad Rheoliad Parcio - fformat Testun Plaen 87Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Ni does tâl ar hyn o bryd am drwydded parcio arbennig.
Cwestiynau Cyffredinol am Goddefebau