Canol Tref Wrecsam a Cyfleusterau Parcio

Manylion Parcio a Thalu yn Wrecsam


Ffordd Cilgant - LL13 8HF

Gwobr Parcio Mwy Diogel
146 gwagle / 0 gwagle anabl

0-3 awr - £1.00
3+ - £1.50

Prisiau Dyddiol o 8.00am - 12 canol dydd gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.
Parcio am ddim ar ôl 12 canol dydd.

Dim mynediad i'r maes parcio cyn 7am
Dim mynediad i'r maes parcio ar ôl 7pm

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: Dim cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Byd Dwr - LL13 8BG

Gwobr Parcio Mwy Diogel
417 gwagle / 16 gwagle anabl

Dydd Llun - Dydd Sul

0-2 awr - £1.00
0-3 awr - £1.50
3+ - £3.00

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Toiledau Cyhoeddus

Cyfyngiadau

Uchder: Dim cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Marchnad y Bobl - LL13 8BB

Gwobr Parcio Mwy Diogel

326 gwagle / 9 gwagle anabl

Lefel 1/1a

0-1 awr - 50c
0-3 awr - £1.50

Uchafswm o 3 awr.

Lefel 2/2a/3/3a/4/4a

0-1 awr - 50c
0-3 awr - £1.50
3+ - £2.00

Prisiau Dyddiol o 8.00am - 12 canol dydd gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.
Parcio am ddim ar ôl 12 canol dydd.

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Toiledau Cyhoeddus

Cyfyngiadau

Uchder: 6ft 2in / 1.9m
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Cilgant San Siôr - LL13 8HF

Gwobr Parcio Mwy Diogel
66 gwagle / 4 gwagle anabl

0-1 awr - 50c
0-3 awr - £1.50

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Uchafswm o 3 awr.

am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: 7ft 5in / 2.1m
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig


Cilgant San Siôr De - LL13 8HF

16 gwagle / 2 gwagle anabl / 1 parciau beicio modur

Dim dychwelyd o fewn 1 awr.

am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

yn ôl i'r brig



San Silyn - LL13 8NA

Gwobr Parcio Mwy Diogel
65 gwagle / 4 gwagle anabl

0-1 awr - 50c
0-3 awr - £1.50

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Uchafswm o 3 awr.

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Toiledau Cyhoeddus

Cyfyngiadau

Uchder: 7ft 6in / 2.3m
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Llyfrgell - LL11 1WS

Gwobr Parcio Mwy Diogel
84 gwagle / 15 gwagle anabl

0-1 awr - 60c
0-2 awr - £1.20

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Uchafswm o 3 awr.

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: Dim Cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Neuadd y Dref - LL11 1AR

Dydd Sadwrn a Dydd Sul yn unig

Gwobr Parcio Mwy Diogel
63 gwagle / 4 gwagle anabl

0-1 awr - 60c
0-2 awr - £1.20

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Uchafswm o 3 awr.

2 Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: Dim Cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Stryt y Farchnad - LL13 8BB

Gwobr Parcio Mwy Diogel
64 gwagle / 9 gwagle anabl

0-1 awr - 60c
0-2 awr - £1.20

6.00pm - hanner nos - 50c

Prisiau dyddiol o 8.00am - 6.00pm a 6.00pm hanner nos gan gynnwys ar ddydd Sul a Gwyliau'r banc.

Uchafswm o 3 awr.

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: Dim Cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig



Ffordd Rhosddu - LL11 1NF

8 gwagle anabl

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

Cyfyngiadau

Uchder: Dim Cyfyngiad
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

yn ôl i'r brig


San Marc (NCP) - LL13 1RY

Gwobr Parcio Mwy Diogel
Dydd Llun - Dydd Sadwrn

300 gwagle / 6 gwagle anabl

1 awr - £2.60
2 awr - £4.10
2-24 awr - £6.90

Taliadau'n weithredol

yn ôl i'r brig


Y Werddon (Euro Car Parks) - LL13 7LW

Gwobr Parcio Mwy Diogel
478 gwagle / 30 gwagle anabl

0-2 awr - £1.00
0-3 awr - £2.00
3-4 awr - £6.00
Trwy'r dydd - £10.00

Am ddim mewn mannau parcio a ddynodwyd ar gyfer pobl anabl yn unig, pan ddangosir bathodyn glas.

yn ôl i'r brig


Gorsaf Cyffredinol Wrecsam (NCP) - LL11 1AA

Gwobr Parcio Mwy Diogel
Dydd Llun - Dydd Sul (24 awr)
67 gwagle / 2 gwagle anabl

1 diwrnod - £3.70
1 tocyn wythnos - £14.80

Am ddim pan yn arddangos bathodyn anabl.

yn ôl i'r brig


Dôl yr Eryrod (Vinci) - LL13 8AX

Dydd Llun - Dydd Sul
970 gwagle / 61 gwagle anabl

1 - 2 awr - £2.00
2 - 3 awr - £3.00
3 - 4 awr - £4.00
4+ awr - £6.00
Nos: 6.00pm - 2.30am - £1.00

Taliadau'n weithredol

Cyfyngiadau

Uchder: 2.1m
Pwysau: Heb fod dros 30 canpwys (heb i lwyth)

Gwybodaeth mwy

  • Toiledau Cyhoeddus
  • 2 Lifftiau i deithwyr
  • TCC

yn ôl i'r brig


Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â'r Gwasnaethau Parcio os oes gennych unrhyw ymholiadau, sylwadau neu awgrymiadau am y gwasanaethau a gynigir gennym.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gwasanaethau Parcio
Pencadlys Adran yr Amgylchedd
Ffordd Dde yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
LL13 9PW

Ffôn: 01978 292042 oriau swyddfa - 8.30am - 5.30pm
01978 367900 mewn argyfwng (y tu allan i oriau swyddfa arferol)
E-bost: parking@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig

Manylion Canol Tref Wrecsam

Parc Bellevue

Cafodd y parc ei ailwampio i'w gyflwr gwreiddiol (cyfnod Edwardaidd) dan gynllun wedi ei ariannu yn rhannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac fe agorodd ym mis Mehefin 2000.

Mae'r parc yn cynnwys nifer o goed aeddfed, sy'n ffurfio llwybrau cysgodol coed leim sy'n arwain allan o'r bandstand. Hefyd mae ardaloedd lle plannwyd coed newydd a gwelyau prysgwydd addurniadol - ychwanwegwyd at y rhain fel rhan o'r gwaith ailwampio a wnaed gydag arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae gardd gerrig gyda phlanhigion o'r cyfnod Edwardaidd yn arwain at y griniau bowlio.


Llwyn Isaf

Erbyn hyn, mae Llwyn Isaf yn faes glaswelltog yng nghanol y dref ac yn lolfa awyr agored i fyfyrwyr Coleg Iâl!

Yn wreiddiol, roedd ty ar y safle hwn o'r enw Ypsytty Ucha - a awgrymir gorffennol sy'n gysylltiedig â ffreieriaid neu fynachod. Yn y 19 Ganrif, enw'r ty oedd Llwyn Isaf a daeth yn gartref i Ficeriaid Wrecsam.


Shopmobility

Mae'r gwasanaeth Shopmobility yn rheoli fflyd o gadeiriau a sgwteri sy'n cael eu gyrru â motor neu â llaw ar gyfer unrhyw un sydd â phroblemau symudedd. Wedi i chi ymaelodi medrwch fenthyg peiriant pan fyddwch ei angen.

Ffôn: 01978 312390
Minicom: 01978 262601


Gwasanaethau Bws Wrecsam

Mae'r llawlyfraun'n cynnwys amserlenni ar gyfer yr holl wasanaethau lleo a ddarperir.

Ffôn: 01978 266166


Siopa yn Wrecsam

Mae Wrecsam yn hafan i bobl sy’n hoff o siopa – y ganolfan fanwerthu fwyaf a gorau yng ngogledd Cymru. Mae cannoedd o bobl o bob rhan o’r ardal yn dewis Wrecsam am amrywiaeth ac ansawdd ei siopau a chyfleusterau parcio cyfleus yng nghanol y dref.

Mae’n cyfuno profiad siopa cyfoes â gwerthoedd traddodiadol. Mae siopau llai, bwticau ac orielau siopau mewn lleoedd megis Stryt y Banc a Chamfa’r Cwn yn ategu at y canolfannau manwerthu newydd sbon sy’n cynnwys siopau enwog y stryd fawr.

Mae’r rhan fwyaf o ganol y dref ar agor i gerddwyr yn unig, gan ei wneud yn hawdd crwydro o un lle i’r llall. Ychwanegwyd 250,000 troedfedd sgwâr o le siopa yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’r gwahaniaeth wrth i chi gerdded o gwmpas y dref yn anhygoel.


Eglwys Gadeiriol y Santes Fair

Rhwng y Diwygiad yn ystod amser y Tuduriaid a Deddf Rhyddfreintio'r Pabyddion 1829, dioddefodd y Pabyddion wahaniaethu amrywiol, ond cyson. Ar y dechrau, roedd Pabyddion Wrecsam yn cyfarfod ger Lôn y Saith Bont, nawr Stryt y Farchnad, i addoli.

Roedd Richard Thompson, meistr haearn a pherchennog glofa'n un o Babyddion Wrecsam. Fe adeiladodd Gapel Pabyddol cyntaf y dref yn 1828 ar Stryt y Brenin, dim ond ar ôl twyllo'r perchennog i werthu'r tir iddo, gan na fyddai wedi gwerthu i Babydd. Agorodd Thompson y capel i fyny grisiau, tra dwedodd bod yr adeilad yn gartref iddo.


Eglwys Blwyf San Silyn

Eglwys Blwyf San Silyn yw tirnod mwyaf Wrecsam. Fe'i disgrifiwyd yn y 19 Ganrif fel un o Saith Rhyfeddod Cymru, mae, fel Pistyll Rhaeadr, yn rhyfeddod gweledol syfrdanol, ac nid gorliwiad lleol yw hyn.


Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r Rhanbarth yn ymestyn ar draws siroedd y Fflint a Wrecsam ac mae’n gymysgedd o dir amaethyddol ac ardaloedd trefol yn ogystal â’r ddwy stad ddiwydiannol fwyaf yng Ngogledd Cymru. Clwb Pêl Droed Wrecsam yw’r unig glwb yng Ngogledd Cymru sydd yn y Gynghrair Bêl Droed ac mae'r ffaith fod y clwb yn un poblogaidd a chanddo lawer o gefnogwyr yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau'r heddlu'n lleol.


Llysoedd Cyfraithol Wrecsam

Mae Llysoedd Cyfraithol Wrecsam wedi eu lleoli rhwng Gorsaf Heddlu Wrecsam a Byd Dwr.

Parcio are gael yn maes parcio Byd Dwr.

Y Llysoedd Cyfraithol
Bodhyfryd
Wrecsam
LL12 7BP

Ffôn: 01978 355 300


Neuadd Goffa Wrecsam

Mae'r Neuadd Goffa yn gyfleuster canol dref y gellir ei haddasu, sy'n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac mae ar gael i'w llogi.

Mae'r Neuadd yn cynnig ystod o gyfleusterau a all dderbyn amrywiaeth o ddigwyddiadau o arddangosfeydd, cynadleddau, seminarau, cyngherddau, dawns giniawau, disgos ac ystod o ddosbarthiadau a chyfarfodydd.


Swyddfeydd y Cyngor

Mae nifer o swyddfeydd y Cyngor wedi’u lleoli yng nghanol y dref:

Adeiladau’r Goron, Ffordd Caer
Neuadd y Dref
Stryt y Lampint
Yr Hen Lyfrgell
Gwasanaethau Cymdeithasol, Ffordd Grosvenor
Ty Dewi Sant (Swyddfa Gofrestru)
Ty Henblas

Cewch wybodaeth am sut i gysylltu â’r adrannau o fewn yr adeiladau hyn trwy glicio ar y cyswllt hwn.  Bydd y cyswllt yn agor tudalen wybodaeth lle gellwch ddewis pa adran yr ydych am gysylltu â hi.  Mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion cyswllt yr adrannau hynny nad ydynt wedi’u lleoli yng nghanol y dref.


Byd Dwr

Hwyl a ffitrwydd mewn lleoliad cyfleus yng nghanol tref Wrecsam i’r teulu cyfan.

Byd Dwr Wrecsam yw’r Ganolfan Ddwr a Gweithgareddau mwyaf blaenllaw yn y dref sydd wedi’i lleoli y drws nesaf i’r Llys Ynadon gyda maes parcio talu ac arddangos mawr ger Stryt Caer. Os byddwch yn cael trafferth wrth geisio dod o hyd i ni a’ch bod yn dod â phlant gyda chi, gofynnwch iddynt edrych am yr Aliwns sy’n codi llaw o’r ffenestr fawr y tu cefn i’r adeilad. Mae’n bosibl eu gweld wrth i chi ddod yn nes at Tesco. Gyrrwch o amgylch yr ynys ar gyffordd Bodhyfryd â Ffordd Holt.


Canolfan Gelf Wrecsam

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am:

  • Arddangosfa Deithiol
  • Newyddlen Ysgolion

Llyfrgell Wrecsam

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am:

  • Adnewyddu Eitemau Llyfrgell Arlein
  • Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
  • Cyswllt Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth

Gorsaf Cyffredinol a Canolog Wrecsam

Gwefan Trenau Cenedlaethol yn cynnwys gwybodaeth am drenau ac amserlenni. Mae'r darn hwn o wefan Trenau Cenedlaethol yn caniatáu i chi weld byrddau gadael holl orsafoedd Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Y Waun
Gwersyllt
Rhiwabon
Canolog Wrecsam
Cyffredinol Wrecsam

Ymholiadau am Drenau Cenedlaethol - ffôn: 0845 7 48 49 50

Peiriant Ateb - ffôn: 0845 60 50 600

Gwasanaeth yn yr Iaith Gymraeg - ffôn: 0845 60 40 500.


Amgueddfa Wrecsam

Wedi'i lleoli'n ganolog ar Stryt y Rhaglaw, mae'n hanfodol i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am ei dreftadaeth leol ymweld â'r Amgueddfa ac mae ar garreg drws canol y dref, ar gyfer siopwyr sydd am gymryd egwyl.

Mae ehangder casgliadau ein Hamgueddfa yn adlewyrchu cyfraniad unigryw y mae pobl o Fwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i wneud i dreftadaeth Cymru, o gynhanes i'r 21 Ganrif. Mae ein rhaglen arddangosfeydd amrywiol iawn yn cynorthwyo casgliadau i ddod yn fyw i bawb.


Canolfan Groeso Wrecsam

Mae Canolfan Groeso Wrecsam yn cynnig croeso cynnes ac ystod eang o wasanaethau. Fel rhan o'r Rhwydwaith Siarter Canolfannau Croeso Cymru Gyfan, mae Canolfan Groeso Wrecsam yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel iawn.

Ffôn: 01978 292015


The North Wales School of Art & Design

Yn anffodus, nid yw'r dudalen hon ar gael yn Gymraeg.

Well equipped spacious design studios and workshops in a traditional "art school" setting are complemented by a high levels of staff expertise. All their programmes are taught by experienced, enthusiastic and committed professionals, many of whom are notable practising artists and designers in their own right.


Coleg Iâl

Wedi ei leoli yng nghanol tref Wrecsam, coleg trydyddol gydag oddeutu 3,000 o fyfyrwyr llawn-amser a 8,000 o fyfyrwyr rhan-amser yw Coleg Iâl.

Mae'r Coleg ar ddau gampws, un ar Ffordd Parc y Gelli yng nghanol Wrecsam a'r llall hanner milltir i ffwrdd ar Ffordd y Bers, lle cynhelir y cyrsiau Peirianneg ac Adeiladwaith.

Yn ogystal â hyn mae gan y Coleg tua 13 o ganolfannau ymestyn, lleolir llawer ohonynt mewn ysgolion lleol lle cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd a chyda'r hwyr.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig