Gwennol y Gorllewin - Cludiant Cymunedol yng ngorllewin Wrecsam Cynllun Cludiant Cymunedol yw Gwennol y Gorllewin sy’n darparu gwasanaeth o ddrws i ddrws i bobl sy’n byw yn unrhyw un o’r mannau isod:
Sylwer bod yn rhaid i chi fod yn aelod i ddefnyddio Gwennol y Gorllewin
Unrhyw un sy’n byw yng ngorllewin Wrecsam (gellir gweld rhestr gyflawn o leoliadau yn y rhan ‘Beth yw Gwennol y Gorllewin?).
Os ydych yn aelod o grŵp cymunedol / gwirfoddol neu gymdeithas sy’n gweithredu yn yr ardal ac mae angen cludiant arnoch, fe wnawn ni ein gorau i fodloni eich anghenion.
Drwy gwblhau Ffurflen Aelodaeth Gwennol y Gorllewin
Cynllun Cludiant Cymunedol Gwennol y Gorllewin
Cydlynu Cludiant
Adeiladaur'r Goron,
Adran yr Amgylchedd,
De Ffordd yr Abaty,
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam,
Wrecsam,
LL13 9PW
- Neu drwy ffonio 01978 297071 a gofyn am ffurflen aelodaeth drwy’r post Ebost westwheels@wrexham.gov.uk
Ffurflen Aelodaeth Gwennol y Gorllewin
Ffurflen Aelodaeth Gwennol y Gorllewin - Fersiwn PDF 42Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Pan fyddwch yn aelod gallwch deithio rhwng unrhyw un o’r lleoliadau a restrir isod am unrhyw reswm
Mae Gwennol y Gorllewin ar gael 7 diwrnod o’r wythnos rhwng 8.30am a 10pm
Mae tocyn yn £1 i deithio rhwng un pentref a restrir (e.e Coedpoeth i Goedpoeth) neu £2 am docyn i deithio rhwng mwy nag un pentref a restrir (e.e Coedpoeth i Llai)
Bydd neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin a gellir neilltuo sedd hyd at saith diwrnod o flaen llaw.
Drwy ffonio 0800 654 321 a dyfynnu’ch rhif aelodaeth
Datblygwyd Gwennol y Gorllewin ar y cyd â thrigolion lleol.
Darparwyd cyllid ar gyfer Gwennol y Gorllewin gan Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am Wennol y Gorllewin, cysylltwch â’r adran Cydlynu Cludiant ar (01978 297071) neu drwy e-bostio westwheels@wrexham.gov.uk